04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei rith Gyfarfod y Bwrdd cyntaf

BYDD Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n cynnal ei rith gyfarfod y Bwrdd cyntaf yr wythnos nesaf.
Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau 28 Mai rhwng 9.30am a 2.30pm; cliciwch yma i ymuno yn y cyfarfod.

Y dewis arall ydi mynd ar wefan Zoom a chlicio ‘Ymuno gyda chyfarfod’ a defnyddio’r cyfeirnod 700 441 713 a chyfrinair 444333 ar gyfer y cyfarfod.

Bydd Tîm Gweithredol yr Ymddiriedolaeth a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn ymgynnull ar gyfer eu cyfarfod Bwrdd, a gynhelir bob deufis ac sy’n agored i’r cyhoedd, trwy gyfrwng Zoom am y tro cyntaf yn hanes y sefydliad.

Gwahoddir y cyhoedd a rhanddeiliaid i ddod i’r cyfarfod trwy gyfrwng y platfform fideo gynadledda hefyd.

Dywedodd Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu’r Ymddiriedolaeth: “Mae’r pandemig Covid-19 yn golygu fod rhaid i ni weithio’n wahanol, gan harneisio technoleg er mwyn parhau i wneud ein cyfarfodydd y Bwrdd mor hygyrch i bobl ag y bo modd.

“Rydym ni wedi bod yn datblygu ein dull o ymgysylltu gyda’r Bwrdd ers nifer o flynyddoedd, ac roeddem ni’n benderfynol ein bod ni am gynnal cysylltiad y Bwrdd gyda chymunedau hyd yn oed yn ystod y pandemig hwn, pan fo tryloywder wrth wneud penderfyniadau a llywodraethu hyd yn oed yn fwy hanfodol.

“Mae ymuno gyda ni yng nghyfarfod digidol y Bwrdd yn gyfle gwych i ddysgu am ein hymateb i’r pandemig Coronafeirws ac am ein cyfeiriad fel gwasanaeth yn y dyfodol a’r materion sydd ar frig agenda’r sefydliad.

“Mae’n gyfle unigryw hefyd i gyfarfod aelodau ein Bwrdd, er o bell.”

%d bloggers like this: