04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi cynllun 2020-2024

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd uchelgeisiol i wella cydraddoldeb ymhlith ei weithlu a chymunedau.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol yr Ymddiriedolaeth 2020-2024 yn nodi ei ymrwymiad i weithio gyda staff a gwirfoddolwyr i’w helpu i adnabod a dathlu amrywiaeth.

Mae hefyd yn amlinellu sut y bydd y sefydliad yn sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau ambiwlans, yn cynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, yn cael mynediad cyfartal.

Dywedodd Claire Vaughan, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu’r Sefydliad gyda’r Ymddiriedolaeth: “Rydym ni am arwain y ffordd fel cyflogwr enghreifftiol o ran amrywiaeth, cyflogaeth, cynhwysiant a thegwch.

“Mae’r strategaeth hon, sy’n adeiladu ar y cynnydd a’r momentwm o’r strategaeth flaenorol, yn nodi sut rydym ni’n bwriadu gwneud hyn dros y pedair blynedd nesaf i feithrin gweithlu cynhwysol lle mae’n pobl ni’n cael eu galluogi i wireddu eu llawn botensial, i ffynnu a gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddarparu gofal.

“Rydym ni wedi galw’r strategaeth yn Trin Pobl yn Deg er mwyn adlewyrchu ein nod; trin pawb yn deg pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

“Rydym ni’n gwybod fod gennym ni ragor i’w wneud i alluogi diwylliant sy’n gwbl gynhwysol, cefnogol ac yn derbyn pawb ac rydym ni’n cael sgyrsiau ynghylch sut y medrwn ni gyflawni’r gwaith hwn yn sgîl digwyddiadau diweddar.”

Ychwanegodd Joga Singh, y Cyfarwyddwr Anweithredol sy’n arwain y Bwrdd ynghylch  Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: “Mae dathlu amrywiaeth mor bwysig i allu sefydliad i recriwtio a chadw’r bobl orau ar gyfer y swydd ac mae hefyd yn gwella cynhyrchedd sydd, yn y pen draw, yn darparu profiad gwell i’r claf.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n staff, dinasyddion a rhanddeiliaid ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol, y sector cyhoeddus a thu hwnt i gyflawni’r dyheadau a nodir yn y strategaeth hon.”

Gwnaeth lansio’r strategaeth newydd gyd-fynd gyda datganiad a wnaeth y Prif Weithredwr Jason Killens i’r gweithlu ynghylch yr ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys yn dilyn marwolaeth George Floyd ym Minnesota, Unol Daleithiau America, ym mis Mai.

Mewn datganiad i’w gydweithwyr, dywedodd Jason: “Nid oes unrhyw le o gwbl i hiliaeth yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Nid yw hyn yn ymwneud â chydymffurfio neu am deimlo fod gennymni ddyletswydd moesol neu foesegol i wneud rhywbeth i fynd i’r afael ag anghyfiawnder.

“Mae hyn yn ymwneud â bod y peth iawn i’w wneud ar gyfer ein pobl a’n cymunedau ni.

“Mae’n ymwneud â sefyll i fyny a thaclo gwahaniaethu ac anghydraddoldeb lle bynnag a phryd bynnag mae’n ymddangos.

“Mae’n ymwneud â bod yn fod dynol teg a gweddus.”

Ychwanegodd Jason, sydd hefyd yn Arweinydd Amrywiaeth ar ran Cymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans: “Nid yw hon yn broblem y gellir ei datrys gan uwch reolwyr yn unig.

“Mae hon yn her sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom ni sefyll ar ein traed a chael ein cyfri; i edrych yn fanwl ar ein meddyliau, ein geiriau a’n gweithredoedd ni a gweithredoedd eraill o’n cwmpas ni.

“Mae’n rhaid i ni herio ymddygiad annerbyniol, p’un ai yw’n fwriadol faleisus neu ar sail anwybodaeth, a newid ein sefydliad er gwell.

“Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni ddechrau trwy gael sgyrsiau agored, gonest ac anodd yn anochel ar draws y sefydliad cyfan.

“Mae angen i ni wrando, dysgu a dyblu ein hymdrechion i newid ymddygiad annerbyniol os ydym ni am gyflawni cydraddoldeb go iawn yn y gweithle, o ystafelloedd criwiau i ystafelloedd bwrdd.”

Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Cydraddoldeb Strategol yr Ymddiriedolaeth, Trin Pobl yn Deg.

%d bloggers like this: