04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn datgelu cyfleuster hyfforddiant newydd modern

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgelu ei gyfleuster hyfforddiant newydd modern.

Mae’r Ganolfan Addysg a Datblygiad y Gweithlu yn Abertawe yn cynnwys ystafell hyfforddiant trochi, lle mae technoleg efelychu’n ailgreu sefyllfaoedd go iawn i ymarfer sgiliau clinigol criwiau.

Mae’n cynnwys waliau taflunio 360 gradd, peiriant lledaenu arogeluon a’r gallu i reoli’r tymheredd i wneud i sefyllfaoedd edrych a theimlo fel digwyddiadau go iawn.

Mae’r cyfleuster ym Mharc Menter Abertawe hefyd yn cynnwys ‘waliau storio’ gydag offer tebyg i’r rhai ar ambiwlans, ynghyd â thair ystafell ddosbarth sy’n medru agor yn un ystafell fawr ar gyfer dysgu gan gadw pellter cymdeithasol.

Bydd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi cydweithwyr yn y Gwasanaeth Meddygol Brys a’r Gwasanaeth Cludo Cleifion nad ydynt yn rhai brys (NEPTS) ar draws De Cymru.

Dywedodd Andrew Challenger, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol: “Mae wedi bod yn anrhydedd arwain y Tîm Addysg a Hyfforddiant am y pedair blynedd ddiwethaf a dylanwadu ar ddyluniad yr adeilad.

“Bydd y cyfleuster modern arloesol yn cyfoethogi ansawdd yr addysg yn ein gwasanaeth ambiwlans, ac mae’r ystafell hyfforddiant trochi yn goron ar y cyfan.

“Mae’r adeilad yn un cyfoes, modern a golau sy’n mynd i hybu llesiant ein staff.

“Mae’n garreg filltir go iawn yn ein datblygiad fel Ymddiriedolaeth.”

Y cyfleuster hwn sy’n cymryd lle’r Coleg Hyfforddiant Ambiwlans Cenedlaethol, cyn gartref nyrsys ar safle Ysbyty Cefn Coed a ddaeth i feddiant yr Ymddiriedolaeth yn 1998.

Dywedodd Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Sefydliadol a’r Gweithlu: “Mae ein cyfleuster yn Ysbyty Cefn Coed wedi’n gwasanaethu am dros ugain mlynedd, ond roedd yn adlewyrchu ei gyfnod.

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar flaen y gad o ran arloesi, ac roedd arnom ni angen cyfleuster hyfforddiant a oedd yn adlewyrchu ein huchelgais i fod yn wasanaeth ambiwlans arweiniol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Rydym ni’n falch ac wrth ein bodd gyda’n cartref newydd yn Nhŷ Matrics, a gwyddom y bydd y recriwtiaid newydd sy’n dod yma i gwblhau eu hyfforddiant yn rhannu ein brwdfrydedd.”

Mae Tŷ Matrics, mae’r gwasanaeth yn ei rannu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phartneriaeth Cyd-wasanaethau GIG Cymru, yn cwblhau triawd o gyfleusterau hyfforddiant ar draws Cymru, gyda chyfleusterau yn Sir Ddinbych a Chaerdydd.


Mae hefyd dafliad carreg oddi wrth bencadlys rhanbarthol newydd yr Ymddiriedolaeth yn Matrics Un gerllaw, ac mae’n rhan o raglen waith ehagnach i foderneiddio ystad yr Ymddiriedolaeth.

Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfalaf ac Ystadau: “Rydym wrth ein bodd bod y prosiect hwn wedi dwyn ffrwyth ar ôl blynyddoedd lawer, ac y gall cydweithwyr a myfyrwyr o’r diwedd gael profiad o’r cyfleusterau y maent yn eu haeddu.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’n timau Ystadau, Cyfalaf a TGCh, a hefyd i’r tîm hyfforddi am eu hamynedd a’u hagwedd drwyddi draw.”

%d bloggers like this: