04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth awyr Ynys Mon – Caerdydd i orffen

MEWN datganiad ysgrifenedig mae Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi amlinellu’r sefyllfa ynglyn a’r gwasanaeth awyr Ynys Môn a Caerdydd.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae gwasanaeth awyr Ynys Môn – Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Caerdydd wedi’i atal ers mis Mawrth 2020 oherwydd effaith COVID-19. Yn dilyn dadansoddiad cost a budd llawn o ddyfodol y gwasanaeth awyr, rydym wedi penderfynu rhoi’r gorau i bob cefnogaeth i’r gwasanaeth. g

Ar hyn o bryd rydym yn ymrwymo hyd at tua £2.93m y Flwyddyn Ariannol i gefnogi’r gwasanaeth. Ni amcangyfrifir y bydd y galw gan deithwyr yn adfer i lefelau cyn Covid tan 2024/2025 ac ni fydd yn cyfateb i’r galw posibl a fyddai wedi digwydd erbyn 2025 pe na bai Covid wedi digwydd. Mae’r galw am deithio awyr yn y dyfodol yn parhau i fod yn ansicr iawn.

Yn ôl arolygon teithwyr cyn y pandemig a gynhaliwyd gan y gweithredwr, roedd 77% o’r bobl a oedd yn teithio ar y gwasanaeth yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith. Cydnabyddir yn gyffredinol fod teithio ar fusnes wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig, ac mae’r newid hwn mewn ymddygiad yn debygol o barhau.

Yn anffodus, mae rhoi’r gorau i gefnogi’r gwasanaeth wedi arwain at golli 7 o’r 10 swydd a gyflogir gan Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyfyngedig i redeg Maes Awyr Ynys Môn. Mae tri o’r gweithwyr hynny eisoes wedi ymddiswyddo ac wedi cael gwaith mewn mannau eraill.

Rydym wedi creu pecyn diswyddo i gefnogi’r unigolion hynny yn ystod y cyfnod anodd hwn. At hynny, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid lleol, yn y Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru ac Awdurdodau Lleol i ddarparu pecyn cyngor a chymorth wedi’i deilwra i’r rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i waith amser llawn arall, mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad gan Cymru’n Gweithio, a chyngor am y rhaglen ReAct a all ddarparu grantiau ariannol er mwyn cael hyfforddiant.

Mae’r penderfyniad yn dilyn canlyniad astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i effaith carbon y gwasanaeth ar yr amgylchedd. Dangosodd yr astudiaeth fod y gwasanaeth wedi cael effaith fwy negyddol ar yr amgylchedd nag unrhyw fath arall o deithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, oni bai ei fod yn hedfan yn agos at gapasiti llawn bob dydd, a fyddai, o ystyried y gostyngiad sylweddol mewn teithio ar gyfer busnes ers y pandemig, yn annhebygol iawn. Hyd yn oed pe bai pob awyren yn llawn, byddai effaith carbon y gwasanaeth yn sylweddol waeth na’r dewis arall ar y rheilffyrdd.

Dangosodd y dadansoddiad hefyd, er gwaethaf y farn gyffredinol, nad y gwasanaeth awyr oedd y cyswllt cyflymaf bob amser â Chaerdydd o’r gogledd, yn enwedig i’r dwyrain o Fangor, lle mae teithio ar y rheilffyrdd mewn gwirionedd yn gyflymach, o ddrws i ddrws. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cerbydau rheilffordd newydd, gyda Wi-Fi, mannau gweithio cyfforddus ac arlwyo, yn golygu bod gwasanaeth rheilffordd Caergybi-Caerdydd bellach yn llawer mwy deniadol i’r rhai sy’n gorfod teithio ar fusnes rhwng y gogledd a’r de o hyd.

Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn y newyddion ddoe, er bod Cymru ar y trywydd iawn gyda’n targedau hinsawdd ar hyn o bryd, fod llawer mwy y mae angen ei wneud o hyd. Mae angen i ni sicrhau mwy o ostyngiadau yn ein hallyriadau yn ystod y degawd nesaf nag yr ydym wedi’i gyflawni yn ystod y tri degawd diwethaf os ydym am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae’n mynd i fod yn her enfawr a bydd angen wynebu dewisiadau anodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru sydd eisoes wedi dechrau edrych ar opsiynau i adeiladu cysylltiadau mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws ac i mewn i ogledd Cymru, ac mae’r rhaglen Metro gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd yn ei blaen.

Mae Gweinidogion wedi penderfynu defnyddio’r arian a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu’r gwaith ar gysylltedd rhwng y gogledd a’r de o fewn rhaglen Metro Gogledd Cymru, gan gynnwys cynnydd cyflymach ar Uwchgynllun Caergybi, Porth Bangor a Phorth Wrecsam, ochr yn ochr â gwaith tuag at ddatblygu gorsafoedd newydd ym Mrychdyn a Maes Glas.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cyflwyno gwaith i wella amseroedd a gwasanaeth teithiau rheilffordd rhwng Caergybi a Chaerdydd a gwella integreiddio â dulliau teithio cynaliadwy eraill ar hyd y llwybr, er mwyn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar trên yr awr ar Brif Reilffordd Gogledd Cymru a mynediad rheilffordd haws a chyflymach i Dde Cymru. Bydd y gwaith hefyd yn edrych ar opsiynau ar gyfer dyblu amlder y gwasanaeth bws rhwng Caernarfon a Phorthmadog, er mwyn gwella cysylltedd â chysylltiadau rheilffordd â De a Chanolbarth Cymru.

Mae’r prosiectau hyn yn gamau hanfodol ar y llwybr i sicrhau bod pobl yn gallu teithio’n haws ac yn gyflymach rhwng y gogledd a’r de tra’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £4.2 miliwn o gyllid i Ganolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor i ddod â chysylltiadau band eang 5G drwy geblau opteg ffibr i ardaloedd anoddach eu cyrraedd. Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda chonsortiwm o gwmnïau i gynyddu’r capasiti a gwella gallu synhwyro ceblau ffibr optig a ddefnyddir i ddarparu band eang symudol cyflymach a mwy dibynadwy, a bydd mwy na 400 o safleoedd ar Ynys Môn nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn yn cael eu treialu.  Bydd rhan darparu band eang y prosiect yn para 18 mis a bydd yn caniatáu i gwsmeriaid gael eu cysylltu cyn gynted ag y bydd y safle cyntaf yn fyw a bydd yn parhau drwy 2025. Cefnogir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.”

 

%d bloggers like this: