04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth CONNECT newydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi a’ch anwyliaid

MAE gwasanaeth cymorth cofleidiol newydd i’ch helpu chi a’ch anwyliaid i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy bellach ar gael yng Ngheredigion.

Mae’r gwasanaeth Delta CONNECT, sy’n rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd, yn cyfuno gwasanaeth teleofal a llinell bywyd a’i nod yw helpu i nodi unrhyw faterion posibl o ran iechyd a llesiant cyn gynted â phosibl.

Mae’r gwasanaeth, y gallwch ymuno ag ef am ddim tan 31 Mawrth 2021, yn cynnwys galwadau llesiant rhagweithiol ac offer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) megis llinellau bywyd â botwm coch, synwyryddion cwympo, dyfeisiadau olrhain GPS synwyryddion drws, peiriannau meddyginiaeth ac ystod o ddyfeisiau defnyddiol eraill i helpu cleientiaid i fyw’r bywyd y maent ei eisiau.

Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd cleientiaid hefyd yn derbyn cymorth digidol, help i ail-ymgysylltu â’r gymuned leol (yn rhithwir ar hyn o bryd ond yn gorfforol yn y tymor hir) a mynediad at Wasanaeth Ymateb Cymunedol priodol pe bai argyfwng. Bydd rhagor o fanylion am hyn ar gael yn fuan.

Dyma’r gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae wedi’i ariannu gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i weithio gyda’i gilydd i helpu i lywio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gorllewin Cymru.

Wrth siarad am y gwasanaeth hanfodol, dywedodd Donna Richard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion: “Mae’r gwasanaeth CONNECT wedi caniatáu i Lesiant Delta a’i bartneriaid ddarparu’r cymorth iawn ar yr adeg iawn pan fydd ei angen ar gleientiaid. Mae cydweithio ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn golygu y gallwn ddod o hyd i’r ateb gorau i gefnogi ein cleientiaid yn unol â’r adnoddau sydd ar gael ond, lle y bo’n bosibl, y nod yw cefnogi ein cleientiaid i fagu eu hyder, cadw eu hannibyniaeth a’u helpu nhw i helpu eu hunain lle bynnag y gallant.

“Wrth i ni nesáu at fisoedd y Gaeaf a’r heriau a ddaw yn sgil hynny, ynghyd ag ail don y feirws a ragwelwyd, gallai hwn fod yn gyfnod pryderus i lawer o drigolion lleol. Fodd bynnag, gall y gwasanaeth hwn gynnig cysylltiad, cymorth a sicrwydd ac yn y pen draw, bydd ein dull rhagweithiol ac ataliol yn ein galluogi i nodi unrhyw faterion posibl o ran iechyd a llesiant cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod anghenion ein cleientiaid yn cael eu cefnogi yn ôl y gofyn.”

I gofrestru ar gyfer CONNECT *am ddim, ffoniwch un o’n Hymgynghorwyr Llesiant Delta cyfeillgar heddiw ar 0300 333 2222 neu i gael rhagor o fanylion ewch i www.llesiantdelta.org.uk (*Gall Telerau ac Amodau fod yn berthnasol.)

%d bloggers like this: