09/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru wedi derbyn cyllid ychwanegol o £72,000 gan Lywodraeth Cymru

MAE Cruse Bereavement Care Cymru wedi derbyn cyllid ychwanegol o £72,000 gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i ymateb i gynnydd disgwyliedig mewn galw, yn ystod y misoedd sydd i ddod oherwydd y coronafeirws

Yn ogystal â marwolaethau cynyddol yn gysylltiedig â’r coronafeirws, mae Cruse hefyd yn disgwyl gweld cynnydd yng nghymhlethdod profiadau galar pobl oherwydd natur y cyfyngiadau sydd yn eu lle i arafu lledaeniad y feirws, a fydd yn gofyn am gefnogaeth ychwanegol.

Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd a darparu hyfforddiant pellach i’r gwirfoddolwyr presennol i gynyddu nifer y bobl y gallant eu cefnogi. Bydd hefyd yn helpu’r gwasanaeth i gynnig sesiynau grŵp newydd ar-lein i bobl sydd wedi cael profedigaeth a darparu mynediad ehangach i help a gwybodaeth wrth i’r galw gynyddu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething:

“Mae’n hanfodol bod gennym ni’r lefel briodol o gefnogaeth yn ei lle, ar yr amser iawn, i helpu pobl ledled Cymru i alaru am golli un o’u hanwyliaid.

“Heb y gefnogaeth hon, rydyn ni’n wynebu risg o weld cynnydd yng nghymhlethdod yr help sydd ei angen, a fydd nid yn unig yn cael effaith ar les meddwl unigolyn ond hefyd ar y galw ar wasanaethau ein GIG, sydd dan bwysau eisoes.”

Dywedodd Janette Bourne, cyfarwyddwr Cruse Bereavement Care Cymru:

“Rydyn ni’n croesawu cyllid Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar yn ystod y cyfnod hynod ansicr ac anodd yma.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sydd wedi cael profedigaeth yng Nghymru’n gallu parhau i gael cefnogaeth, boed drwy ein llinell gymorth genedlaethol ni – 0808 808 1677 – neu drwy sesiynau parhaus dros y ffôn gyda changhennau lleol.

“Ar ôl codi’r cyfyngiadau presennol, bydd y cyllid hwn hefyd yn ein cefnogi ni i adfer ein sesiynau wyneb yn wyneb a grŵp sy’n cael eu cyflwyno gan ein gwirfoddolwyr profedigaeth hynod werthfawr sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel.”

%d bloggers like this: