04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwynedd Council

The Gwynedd Council

Gwefan newydd Llechi Cymru yn rhoi cyfle i chi rannu eich hanesion chi

GYDA chwe mis ers dynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gan UNESCO, mae gwefan newydd www.llechi.cymru yn cynnig cyfle i bobl yr ardal rannu eu profiad nhw o bob agwedd o fyd y llechi.

Drwy nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bu cydweithio rhwng Adran Technoleg Gwybodaeth a Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Gwynedd, er mwyn creu gwefan ddifyr, lliwgar a defnyddiol.

Mae’r wefan yn rhannu’r stori yn ffeithiol gywir, yn ddifyr ac ar ffurf hawdd i’w ddeall a hynny trwy fideos, lluniau, mapiau, gwybodaeth ymweld ac adnoddau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae ‘na lot mwy i lechi na toeon tai, ac rydan ni’n awyddus i weld y wefan yn gyfle i gysylltu gyda phobl yr ardal er mwyn rhoi cyfle iddynt rannu eu straeon a’u profiadau.

“Ar y wefan newydd, mae’r dudalen ‘Pobl y Llechi’ yn ein cyflwyno i unigolion sy’n gweithio neu wedi eu hysbrydoli gan bob agwedd o’r diwydiant neu’r dirwedd.

“Rydym yn annog cyfraniadau gan bobl leol sydd â cysylltiad llechi i rannu eu storïau gyda ni fel lleisiau lleol i’w cynnwys ar ein gwefan trwy gysylltu ar llechi@gwynedd.llyw.cymru”

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn cynnwys chwe ardal allweddol: Chwarel y Penrhyn a Bethesda, a Dyffryn Ogwen at Aber Cegin (Porth Penrhyn), Tirwedd Fynyddig Chwarel Dinorwig, Tirwedd Chwareli Dyffryn Nantlle, Chwareli Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor, y Rheilffyrdd a’r Felin, Ffestiniog: ei Mwyngloddiau a’i Chwareli Llechi, ‘dinas llechi’ a’r Rheilffordd i Borthmadog, a Chwarel Bryneglwys, Pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn.

Mae’r dirwedd yn adrodd stori anhygoel esblygiad cymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un a ddominyddir gan y diwydiant llechi; gyda threfi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn cerfio’u ffordd trwy fynyddoedd Eryri i lawr tuag at y porthladdoedd eiconig.

Penderfynodd UNESCO yng Ngorffennaf 2021 fod Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth y Byd. Golygir hyn fod yr ardal yn Dirwedd Ddiwylliannol wirioneddol bwysig, yr un mor bwysig â’r Taj Mahal, neu Gôr y Cewri. Mae’r ardal yn ymuno â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte i gydnabod cyfraniad rhagorol Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol. Mae’n ymuno â Chestyll a Waliau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd fel ail safle Treftadaeth y Byd Gwynedd. Datblygodd Cyngor Gwynedd y cais, ar ran sawl rhanddeiliad.

%d bloggers like this: