03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwefan newydd yn tynnu sylw at wneuthurwyr seidr lleol

MAE tîm Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio gwefan newydd, Ein Pantri Ar-lein, ar gyfer busnesau gwledig lleol ym Mwrdeistrefi Sirol Caerffili a Blaenau Gwent er mwyn iddyn nhw arddangos eu cynnyrch a’i wneud yn haws iddyn nhw werthu eu nwyddau ar-lein.

Mae dau o’r busnesau sydd wedi’u cynnwys ar y wefan hon yn wneuthurwyr seidr aml-wobrwyol, sef Hallett’s a Williams Brothers.

Mae Annie ac Andy Hallett wedi bod yn creu seidr ar eu fferm deuluol ers 2006. Maen nhw wedi ennill llawer o wobrau dros y blynyddoedd ac maen nhw’n hapus i gael ymwelwyr â’r fferm. Mae hefyd ganddyn nhw lety gwyliau y mae modd ei logi trwy AirBnB.

Gyda gwasg fasged fach, fe wnaeth Williams Brothers ddechrau creu seidr crefft yn 2009 er eu mwynhad a’u hwyl eu hunain. Yn raddol, fe wnaethon nhw gynyddu’r cyfeintiau o flwyddyn i flwyddyn, gydag ystod eang o fathau o afalau seidr, ac arbrofi gyda chymysgeddau. Maen nhw wedi bod yn ddigon ffodus i ennill ychydig o wobrau ar hyd y ffordd.

Mae Cwm a Mynydd wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r wefan, Ein Pantri Ar-lein, yn cael ei hariannu trwy’r prosiect Data Daearyddol ac Arsyllu’r Ddaear ar gyfer Monitro dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth. Mae’r rhaglen honno wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai Hallett’s eu bod nhw’n falch o fod yn rhan o’r prosiect newydd hwn, gydag Annie yn dweud,

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn gefnogol iawn i ni dros y blynyddoedd ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r fenter newydd hon. Rydyn ni’n credu y bydd hi’n helpu ein hyrwyddo ni fel cyflenwr i’r diwydiant bwyd a diod, fel cyrchfan gwyliau i ymwelwyr, gwneud gwahaniaeth i dwf ein busnes, a chyfrannu at yr economi leol.”

Dywedodd Richard Williams, Williams Brothers,

“Rydyn ni, yn Williams Brothers Cider, yn falch o fod yn rhan o’r fenter wych hon a fydd yn helpu i leihau’r effaith rydyn ni i gyd yn ei chael ar yr amgylchedd trwy siopa’n lleol, yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol gan gyflenwi cynnyrch lleol o ansawdd uchel i’n cymuned ei fwynhau.”

 

 

%d bloggers like this: