03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog Addysg Cymru yn cyhoeddi Trefniadau Arholi ar gyfer Blynyddoedd 10 a 12

MAE’R Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi sut y bydd dysgwyr Blwyddyn 10 a 12 yng Nghymru yn cael eu hasesu, wrth i drefniadau amgen gael eu cyflwyno yn dilyn y coronafeirws a chanslo arholiadau’r haf.

Mae’r Gweinidog wedi penderfynu na fydd yn ofynnol i fyfyrwyr blwyddyn 10 a 12 oedd ar fin sefyll arholiadau yn yr haf sefyll yr arholiadau hynny ar ddyddiad  diweddarach.

Roedd penderfyniad y Gweinidog yn seiliedig ar ystyriaeth fanwl o’r opsiynau oedd ar gael a chyngor gan Cymwysterau Cymru a Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC).

Safon UG

Yng Nghymru, yn ogystal â bod yn gymwysterau annibynnol, mae safon UG hefyd yn cyfrannu at gymwysterau Safon Uwch. Mae unedau UG yn cael eu sefyll ym Mlwyddyn 12 fel arfer, gydag unedau U2 yn cael eu sefyll ym Mlwyddyn 13.

Eleni, bydd dysgwyr Safon UG yn cael gradd. Bydd yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth, gan gynnwys graddau a aseswyd gan yr athro.

Yn haf 2021, bydd gan y dysgwyr UG presennol ddau ddewis ar gyfer eu dyfarniad Safon Uwch. Gallant ddewis a ydynt am:

  • sefyll yr unedau U2 yn unig, gyda’r radd Safon Uwch yn cael ei dyfarnu ar eu perfformiad yn yr unedau U2 yn unig;
  • neu sefyll yr unedau UG ac U2. Byddant yn derbyn y radd orau o’r naill lwybr neu’r llall.

Blwyddyn 10

Bydd dysgwyr Blwyddyn 10 a oedd ar fin sefyll arholiadau a fyddai wedi arwain at TGAU yr haf hwn yn cael gradd yn yr un ffordd â’r rheini ym Mlwyddyn 11. Bydd y radd yn seiliedig ar dystiolaeth gan gynnwys asesiadau athrawon yn ystod y flwyddyn academaidd hyd yma.

Ni fydd y rhai a oedd i fod i sefyll unedau a fydd yn arwain at ganlyniadau TGAU yr haf nesaf yn cael canlyniadau uned. Yn hytrach, bydd gan y dysgwyr hynny ddau ddewis, naill ai:

  • sefyll yr unedau y maent yn bwriadu eu cymryd yn unig yn ystod yr haf 2021, gyda’u gradd TGAU yn seiliedig ar y perfformiad hwnnw’n unig;
  • neu sefyll unedau Blwyddyn 10 yn haf 2021, ynghyd ag unedau blwyddyn 11. Byddant yn derbyn y radd orau o’r naill lwybr neu’r llall.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Yn y cyfnod hwn, na welwyd ei debyg o’r blaen, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi cymaint o sicrwydd i bobl ifanc ag y gallwn, yn enwedig y rhai oedd ar fin sefyll arholiadau pwysig yr haf hwn. Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd, ond rwy’n hyderus mai’r mesurau hyn ar gyfer Blynyddoedd 10 a 12 yw’r ffordd orau ymlaen. Byddant yn rhoi eglurder i’r myfyrwyr hynny a oedd yn bryderus ynghylch sut y byddai eu gwaith caled yn cael ei gydnabod.

“Ers y penderfyniad i gau ysgolion a chanslo arholiadau’r haf hwn, rydym wedi gweithio mor gyflym â phosibl i ddatblygu’r wybodaeth fanwl sydd ei hangen ar fyfyrwyr.

“Hoffwn ddiolch i fyfyrwyr am eu hamynedd a byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt cyn gynted ag y gallaf.”

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:

“Rydym yn croesawu penderfyniad y Gweinidog, sy’n rhoi mwy o eglurder ar arholiadau’r haf hwn i bawb sy’n ymwneud â’r cymwysterau hyn. Mewn amgylchiadau anodd iawn, credwn mai dyma sy’n cynnig y dull gorau i ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer UG a blwyddyn 10.

“Y tu hwnt i hyn, mae mwy o waith yn digwydd i ddod o hyd i atebion ar draws cymwysterau eraill. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y peth iawn i amddiffyn dysgwyr ar yr amser trafferthus hwn a byddwn yn parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf mor aml ag y gallwn.”

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:

“Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog yr wythnos ddiwethaf ynghylch cau ysgolion a chanslo arholiadau’r haf hwn, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru i ystyried yr effaith ar bob dysgwr.

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw ar yr opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr Blwyddyn 10 a 12. Byddwn yn gweithio mor gyflym â phosibl i roi’r holl gamau angenrheidiol ar waith a sicrhau bod dysgwyr yn cael cydnabyddiaeth am eu holl waith caled, gan gael eu trin yn deg a derbyn y cymwysterau y maent yn eu haeddu.”

 

%d bloggers like this: