04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog Addysg yn ymrwymo “nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol”

YN y Senedd ddoe sicrhaodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg ni fydd “unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.”

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud:

“Mae ein rhaglen lywodraethu ni yn glir: byddwn ni’n sicrhau’r tegwch mwyaf i bawb ac yn dileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas. Bydd Cymru yn wlad lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a neb yn cael ei adael ar ôl. Ym myd addysg, mae ein huchelgais i wireddu’r nodau hyn wedi bod yn amlwg, gan flaenoriaethu dulliau a fydd yn lleihau’r anghydraddoldebau sy’n cael eu creu drwy anfantais economaidd-gymdeithasol, a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.

Mae’r uchelgeisiau hyn wedi bod yr un mor amlwg yn ein cynllunio ac yng nghyflymder gweithredu ein hymrwymiad fel rhan o’n cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd ar draws Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Cyhoeddwyd ein huchelgais ar y cyd ym mis Tachwedd ac, mewn llai na naw mis, rydyn ni wedi dechrau cyflawni ar gyfer rhai o’n disgyblion ieuengaf ledled Cymru.

Ond, Llywydd, nid her fach fu hon. Mae hyn wedi cynnwys archwiliadau seilwaith o fwy na 1,000 o ysgolion ledled Cymru a buddsoddiad cyfalaf o £60 miliwn mewn ceginau ysgol a chyfleusterau bwyta—buddsoddiad ymlaen llaw o £25 miliwn a ategwyd gan £35 miliwn pellach a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’n golygu bod 45,000 o ddisgyblion ychwanegol bellach yn gymwys i gael pryd o fwyd amser cinio yn eu hysgol, ac erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd y ffigwr hwnnw’n cynyddu i 66,000. Erbyn diwedd cyflwyno’r cynllun, bydd ein buddsoddiad o £200 miliwn yn sicrhau y bydd 186,000 o ddisgyblion ychwanegol ledled Cymru yn elwa ar y cynnig o bryd bwyd maethlon tra byddan nhw yn yr ysgol.”

%d bloggers like this: