03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud addewidion pendant wrth gyflwyno’r Cynllun Adfer Gofal

YN y Senedd mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi nodi y camau fydd Llywodraeth Cymru yn ei gymeryd i leihau amseroedd arose am driniaeth meddygol worth gyflwyno’r Cynllun Adfer Gofal.

Meddai Eluned Morgan:

“Fe fyddwn ni’n trawsnewid y ffordd rydym ni’n darparu gofal sy’n cael ei gynllunio. Fe fydd mwy o ofal a chymorth ar gael gan amrywiaeth ehangach o wasanaethau lleol a gweithwyr proffesiynol i helpu pobl i gadw’n iach ac i aros adref. Fe fyddwn ni’n sefydlu cyfleusterau llawfeddygol pwrpasol ac yn gwahanu gofal a gynlluniwyd oddi wrth ofal brys a gofal argyfwng, pan fo hynny’n bosibl. Fe fyddwn ni’n darparu gwell gwybodaeth a chymorth i bobl, yn enwedig y rhai sy’n aros am driniaeth.”

Aeth ymlaen i nodi’r targedau i leihau amseroedd arose:

“Erbyn diwedd 2022, eleni, ni fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf. Erbyn gwanwyn 2024, fe fyddwn ni wedi cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi. Erbyn gwanwyn 2025, ni fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am lawdriniaeth yn y rhan fwyaf o feysydd arbenigol. Erbyn 2026, fe fydd 80 y cant o’r bobl sy’n cael diagnosis canser yn dechrau’r driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod o’r pwynt cyntaf pan amheuir fod canser. Fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr mai’r rhai sydd â’r angen mwyaf sydd yn cael eu gweld gyntaf. Ond, gadewch i mi fod yn glir, mae’r dasg o’n blaenau ni yn enfawr.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd:

Mae’r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd o dan bwysau di-baid yn sgil y pandemig a’r gaeaf. Mae’n staff iechyd yn flinedig ar ôl gweithio o dan bwysau enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cynyddu nifer y staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru 54 y cant yn rhagor, ond mae angen mwy arnom ni. Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i hynny drwy gyllideb gwerth £0.25 biliwn i hyfforddi mwy o arbenigwyr. Fe fyddwn ni’n cefnogi’r gwasanaeth iechyd wrth inni ofyn iddo roi’r cynllun hwn ar waith. Fe fyddwn ni’n parhau i recriwtio staff medrus i ymuno â’r gweithlu ac yn parhau i hyfforddi’r to nesaf o weithwyr gofal iechyd.170

Fe fydd gan ofal sylfaenol ran hanfodol i’w chwarae yn llwyddiant y cynllun hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth e-gyngor i feddygon teulu, i’w helpu i gael cyngor cynnar gan dimau arbenigol i gefnogi penderfyniadau a rheoli gofal cleifion. Fe fyddwn ni hefyd yn gwneud defnydd ehangach a gwell o sgiliau ac arbenigedd ein staff nyrsio a’n gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gefnogi pobl tra maen nhw’n aros am apwyntiad a thra maen nhw’n adfer ar ôl llawdriniaeth. Does dim ateb sydyn i leihau amseroedd aros hir. Fe fydd angen gwaith caled, fe fydd angen cefnogaeth pobl ar draws Cymru a’r gwasanaeth iechyd, ac fe fydd angen amser i weld canlyniadau gwirioneddol a pharhaol.”

%d bloggers like this: