04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi strategaeth brofi newydd Cymru ar gyfer coronafeirws.

DROS y tri mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydweithio i greu seilwaith profi cenedlaethol, sy’n golygu y gall unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws gael prawf yn gyflym ac yn rhwydd.

Heddiw [15 Gorffennaf], mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi strategaeth brofi newydd Cymru ar gyfer y coronafeirws.

Mae’r strategaeth newydd a gyhoeddir heddiw wedi’i seilio ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ac yn blaenoriaethu pedwar maes:

Rheoli ac atal trosglwyddiad y feirws drwy gefnogi’r broses o olrhain cysylltiadau;

Diogelu Gwasanaethau’r GIG – i gefnogi diogelwch staff a chleifion;

Amddiffyn grwpiau agored i niwed – i ddiogelu grwpiau lle ceir risgiau uwch; a

Datblygu dulliau gweithredu yn y dyfodol – i fanteisio ar dechnolegau newydd a gwyliadwriaeth er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r feirws.

Ar hyn o bryd, mae dwy ffordd wahanol o brofi yng Nghymru; prawf i ganfod a oes gan rywun y feirws ar y pryd, a’r prawf gwrthgyrff a ddefnyddir i ddarganfod a yw person wedi’i heintio yn flaenorol.

Mae’r strategaeth newydd hefyd yn edrych ar rôl a diben profi pobl asymptomatig ac yn nodi y bydd hyn yn parhau lle ceir y risg fwyaf – megis ymysg ein poblogaethau hŷn a gweithwyr iechyd a gofal.

Cadarnhawyd hefyd y bydd y rhaglen brofi wythnosol ar gyfer cartrefi gofal yn parhau am 4 wythnos arall, gyda’r data ar gyfraddau mynychder yn cael eu monitro’n fanwl. Os nad oes cynnydd yn y cyfraddau mynychder y tu hwnt i’r lefelau presennol, yna bydd y cylch profi yn symud i bob pythefnos.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Mae’r strategaeth hon yn gosod y ffordd ymlaen ar gyfer profion wrth i’r cyfyngiadau lacio a nifer yr achosion o COVID-19 ostwng o’r brig a welsom ychydig wythnosau yn unig yn ôl. Mae hefyd yn gwneud paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o ail don o’r coronafeirws yn yr hydref.

“Mae gennym nawr seilwaith profi cenedlaethol sy’n golygu y gall unrhyw un sydd angen prawf gael un. Yn ei dro, bydd hyn yn ein galluogi i olrhain cysylltiadau er mwyn rheoli trosglwyddiad y clefyd wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

“Mae ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn hollbwysig i’n helpu i ddod o hyd i ffordd o fyw gyda’r clefyd hyd nes y bydd brechlyn neu driniaeth ar gael.

“Rydym yn gwybod bod angen gwella mewn rhai meysydd o hyd ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn ni’n gwneud yn fawr o dechnolegau profi newydd a byddwn ni’n barod i achub ar y cyfleoedd y mae’r rhain yn eu cynnig.”

%d bloggers like this: