Gweinidog yn ddeud mae cais UNESCO am tirwedd llechi unigryw gogledd Cymru yn Lawrlwytho.
Mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cefnogi’r ddatganiad heddiw y mae Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru wedi ei gyflwyno fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO potensial.
Yr wythnos dwethaf, cyflwynodd Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yr achos i UNESCO gydnabod yr ardal am ei chyfraniad unigryw i dreftadaeth ddiwylliannol y byd.
Pwerwyd y Chwyldro Diwydiannol gan lo o gymoedd y De, ond llechi oedd ar doeau cartrefi’r bobl a’r ffatrïoedd lle roeddent yn gweithio. Cloddiwyd y llechi hyn gan ddynion gweithgar a medrus bro’r chwareli, ym mynyddoedd Gogledd-orllewin Cymru.
Allforiwyd llechi Cymru ar longau o borthladdoedd Gwynedd, ac maent i’w gweld hyd heddiw ar doeau adeiladau ar hyd a lled y byd.
Roedd rheilffyrdd yn ystumio eu ffordd rhwng y mynyddoedd gan gysylltu’r chwareli â’r porthladdoedd, ac mae graddfa aruthrol y chwareli hyn, a’r trefi a phentrefi chwarelyddol gerllaw gyda’u diwylliant Cymraeg cryf, yn dangos sut y newidiodd y diwydiant y gymuned amaethyddol yn gymdeithas ddiwydiannol. Mae gan yr ardal le i ddiolch i ddyfeisgarwch y chwarelwyr hyd heddiw.
Os bydd y cais yn llwyddiannus, y dirwedd hon fydd y pedwerydd safle treftadaeth y byd yng Nghymru, gan ymuno â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I yng Ngwynedd, a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Yn 2016, amcangyfrifwyd bod safleoedd sydd wedi’u dynodi gan UNESCO yn y DU yn denu mwy na £100miliwn i’r economi bob blwyddyn.
Ym Mhencadlys UNESCO ym Mharis, trafododd y Gweinidog y cais ymhellach gyda Matthew Lodge, Gweinidog a Llysgennad Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i UNESCO; a Moez Chakchouk, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol Cyfathrebu a Gwybodaeth UNESCO.
Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol ei bod yn gobeithio y byddai’r statws yn helpu i “adfywio a thyfu’r economi” yn yr ardaloedd chwarelyddol.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae gan Dirwedd Lechi’r Gogledd-orllewin dreftadaeth ddaearyddol, gymdeithasol, economaidd a diwylliannol gyfoethog, a dywedir mai’r ardal hon o Wynedd wnaeth doi adeiladau’r byd yn y 19eg ganrif, gyda chyflenwadau aruthrol o lechi o’r ardal yn cael eu hallforio ledled y byd.
“Mae’r enwebiad yn ddathliad o waith cenedlaethau o ddynion a merched a fu’n byw ac yn gweithio yma, gan siapio’r dirwedd, a’u gwaddol nhw yw’r enwebiad hwn.
“Mae’r stori hon yn cyffwrdd y cymunedau lleol a’r ymwelwyr – daw miloedd o bobl bob blwyddyn i weld y dirwedd drawiadol; i fwynhau ein Hamgueddfa Lechi Genedlaethol, teithio ar reilffyrdd Blaenau Ffestiniog a Thal-y-llyn a phrofi ein diwylliant unigryw, ac mae hyn oll yn rhoi hwb i gyflogaeth a’r economi yn lleol”.
“UNESCO fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, ond yn fy marn i mae’r ardal yn llwyr haeddu statws Safle Treftadaeth y Byd.”
Yn ogystal â’r cais, trafododd y Gweinidog y cyfleoedd ar gyfer meithrin cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru ac UNESCO i’r dyfodol, ynghyd â Strategaeth Ryngwladol Cymru a Blwyddyn Ieithoedd Cynhenid y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydym wrth ein bodd y bydd Tirwedd Lechi’r Gogledd-orllewin yn cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU i’w chofrestru fel Safle Treftadaeth y Byd. Mae treftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol Cymru i’w dathlu.
“Mae’r enwebiad hwn yn gydnabyddiaeth bellach o’r dirwedd eithriadol hon – sy’n ganolog i’n daeareg a’n diwylliant ni, ond o bwysigrwydd byd-eang.”
Yn ogystal â’r cais, trafododd y Gweinidog y cyfleoedd ar gyfer meithrin cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru ac UNESCO i’r dyfodol, ynghyd â Strategaeth Ryngwladol Cymru a Blwyddyn Ieithoedd Cynhenid y Cenhedloedd Unedig.
Bydd y cais yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU cyn 31 Ionawr.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m