MAE Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 y bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366m dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Dywedodd y Gweinidog y bydd y buddsoddiad mawr hwn yn helpu i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050, ac i ddileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU erbyn 2050. Bydd hyn yn helpu i sicrhau Cymru decach sy’n gadael neb ar ôl ac yn gwneud Cymru’n lle y gall pobl deimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma.
Nod rhaglen brentisiaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a chynyddu eu cyfleoedd bywyd. Bydd yn cefnogi cyflogwyr a’u gweithwyr ledled Cymru, gan flaenoriaethu recriwtiaid newydd yn benodol. Mae’r rhaglen brentisiaethau hefyd yn rhan bwysig o’r Gwarant i Bobl Ifanc.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 yn ddathliad o waith caled ac ymroddiad prentisiaid a’r gefnogaeth a’r ymrwymiad a ddangosir gan eu cyflogwyr.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Sgiliau a chymwysterau yw’r dylanwad unigol mwyaf ar siawns rhywun o fod mewn cyflogaeth, gan gynnig incwm da a llwybr allan o dlodi, a diogelu pobl rhag tlodi.
“Felly, ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022 rwy’n falch iawn o gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon – gyda buddsoddiad sylweddol o £366m i gyflawni’r rhaglen dros y tair blynedd nesaf.
“Gall prentisiaethau helpu i sicrhau dyfodol gweithlu, ei gymell a’i amrywio – gan gynnig cyfle i bobl ddatblygu sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel. Maent hefyd yn hanfodol i’n gweledigaeth uchelgeisiol i greu Cymru lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl.
“Rwy’n annog pobl ledled Cymru a chyflogwyr i weld sut y gall prentisiaethau roi hwb i’w dyfodol yn ystod wythnos prentisiaethau Cymru 2022.”
Bydd y cyllid o £366m yn cynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella eu bywydau. Bydd hefyd yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sectorau â blaenoriaeth sy’n hanfodol i sbarduno cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol bob dydd a gwasanaethau cyhoeddus.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Gweinidogion hefyd yn buddsoddi mwy mewn cefnogi pobl ag anableddau i fanteisio ar gyfleoedd prentisiaeth.
Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i ddileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar Waith Teg a chodi cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae cyrraedd ein nod uchelgeisiol o ddarparu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2026 wedi cael ei wneud yn anoddach gan Lywodraeth y DU. Gyda £1bn o gyllid a addawyd o’r cronfeydd ôl UE ar goll o gyllideb Cymru, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu’r addewid mawr hwn.
“Er na allwn ddianc rhag effeithiau colli’r cyllid hwnnw yn y blynyddoedd i ddod, byddwn yn buddsoddi £30m yn ychwanegol hyd at 2024-25 i sicrhau bod ein rhaglen brentisiaethau pob oed yn parhau, yn ogystal â chymorth i ehangu Prentisiaethau a Rennir a Gradd-brentisiaethau.
“Er gwaetha’r sefyllfa ariannol anodd, rydym yn blaenoriaethu’r cymorth sydd ei angen i gyflawni adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom.”
Roedd y Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr yn rhan allweddol o’n Hymrwymiad Covid i gefnogi busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r argyfwng iechyd cyhoeddus.
Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, cafodd mwy na 5,500 o brentisiaid newydd eu recriwtio.
Ar hyn o bryd mae Gweinidogion yn ystyried ymestyn y cynllun tan ddiwedd mis Mawrth, o ystyried yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar annog cyflogwyr i recriwtio prentisiaid.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m