04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog yr Economi mynd ar daith i weld adfywiad y ddinas

ROEDD Theatr y Palace a Gwaith Copr yr Hafod-Morfa ar yr amserlen deithio pan ddaeth Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, i Abertawe i weld â’i lygaid ei hun faint o waith adfywio sy’n digwydd yn y ddinas.

Yn ystod ei ymweliad ag Abertawe 15 Mawrth, ymwelodd Mr Gething hefyd â safle adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin a datblygiad Arena Abertawe.

Mae’r pedwar prosiect yn rhan o raglen adfywio gwerth £1bn sy’n dod i’r amlwg yn Abertawe.

Mae cynlluniau ar waith i drawsnewid Theatr y Palace, adeilad rhestredig Gradd II sy’n 134 mlwydd oed ar Stryd Fawr y ddinas, yn gartref i fusnesau technoleg, newydd a chreadigol. Mae Cyngor Abertawe wedi penodi Tramshed Tech yn brif denant i redeg yr adeilad, ac mae’r contractwr o dde Cymru, R & M Williams yn parhau i wneud gwaith adfer hanfodol yno. Dechreuodd gwaith ar safle Theatr y Palace, gyda chymorth gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yn hydref 2021 a gallai’r adeilad agor y flwyddyn nesaf.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae gwaith yn parhau hefyd ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y bwriedir iddo ddod yn atyniad i ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn. Bydd cynllun Cyngor Abertawe, a gefnogir gan y contractwr lleol, John Weaver, yn dod â bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol, gyda distyllfa ar y safle’n ychwanegu at gyfleusterau presennol Penderyn.

Mae rhaglen o sêr bellach wedi dechrau ymddangos yn  Arena Abertawe – rhan o ardal gwerth £135m Bae Copr a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe – a’r band roc Royal Blood fydd yn perfformio yno nesaf, nos Sadwrn 19 Mawrth.

Mae’r prif waith adeiladu hefyd wedi dechrau nawr ar ddatblygiad swyddfeydd newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn y sectorau technegol a digidol.

Ariennir datblygiadau’r arena a  71/72 Ffordd y Brenin yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3bn – buddsoddiad mewn naw prosiect ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Meddai Gweinidog yr Economi Cymru, Vaughan Gething:

“Roedd yn wych bod yn Abertawe i weld y prosiectau adfywio trawiadol sydd ar y gweill ledled y ddinas. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cyngor i gyflwyno prosiectau trawsnewidiol a fydd o fudd i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma ac yn ymweld â’r lle.

“Mae gan Abertawe ddyfodol cyffrous o’i blaen, ac mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i gefnogi Abertawe i ddod yn ddinas rydym oll am ei gweld – dinas fywiog a llwyddiannus yn economaidd.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r cyngor a phartneriaid eraill yn yr ardal i adeiladu Cymru sydd ag economi werdd deg a ffyniannus lle nad oes neb yn cael ei gadw’n ôl neu ei adael ar ôl.”

Dywedodd Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Dim ond pan fyddwch yn ymweld ag Abertawe y cewch wir ymdeimlad o faint o waith adfywio sy’n digwydd yma i greu gwell dinas i’n preswylwyr, ein busnesau a’n hymwelwyr. Mae cymaint o gynnydd wedi cael ei wneud drwy gydol y pandemig, felly roedd yn bleser croesawu Gweinidog yr Economi yma i ddangos rhywfaint o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yma.

“Mae’r cyfuniad o’r prosiectau hyn, sydd hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer rhagor o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol, yn golygu bod economi Abertawe mewn sefyllfa dda i adfer yn gyflym o effaith economaidd COVID.”

Yn ystod ei ymweliad â safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, dysgodd Mr Gething hefyd fwy am gynlluniau ar gyfer parc antur awyr agored yn edrych dros y ddinas o Fynydd Cilfái. Cwmni o Seland Newydd o’r enw Skyline Enterprises sy’n gyfrifol am y cynigion i adeiladu atyniad yno a fydd yn cynnwys llinellau sip, siglen awyr, llwybrau ceir llusg a system raffbont.

%d bloggers like this: