MAE Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyfarfod i drafod materion cyllidol amrywiol. Maent wedi lleisio ar y cyd eu pryderon am oblygiadau ariannol Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r llywodraethau datganoledig.

Mynegodd Rebecca Evans, Kate Forbes a Conor Murphy eu pryderon am y pwerau gwario a nodir yn y Bil, sy’n diystyru’r setliad datganoli sy’n bodoli’n barod. Mae’r pwerau’n galluogi Llywodraeth y DU i wario mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys y cyllid a ddaw yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, ac i wneud hynny heb unrhyw drafodaeth â’r gwledydd datganoledig. Mynegodd y Gweinidogion Cyllid bryderon hefyd ynghylch goblygiadau hyn i’r trefniadau ariannu canlyniadol yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:“Rwy’n bryderus iawn fod y Bil yn rhoi, am y tro cyntaf ers datganoli, bwerau i Weinidogion y DU ariannu gweithgarwch mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n glir i Gymru.

“Yng Nghymru mae penderfyniadau ariannu yn cael eu gwneud mewn partneriaeth â chymunedau lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion pobl Cymru. Mae’r pwerau a nodir yn y Bil yn tanseilio datganoli’n llwyr a byddant yn golygu bod  penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu cipio nôl  gan Lywodraeth y DU.”

Meddai Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Kate Forbes:

“Mae’n hollol annerbyniol fod Llywodraeth y DU – heb unrhyw rybudd ymlaen llaw – wedi ysgrifennu darpariaethau yn y Bil sy’n rhoi rheolaeth i Whitehall dros weithredu’r cyllid a ddaw yn lle rhaglen cyllid yr UE yn yr Alban; rhaglen y mae Gweinidogion yr Alban yn ei gweithredu’n llwyddiannus ers degawdau.

“Byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i Lywodraeth y DU reoli sut y caiff arian ei wario mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion yr Alban. Mae’n peryglu cyllid ar gyfer llu o raglenni cyfalaf – ysgolion, ysbytai a seilwaith. Mae’n gwrthdroi’r broses ddatganoli a byddwn ni’n gwrthwynebu unrhyw ymdrech i osgoi Senedd a Llywodraeth yr Alban a etholir gan bobl yr Alban.

“Nid yn unig y mae’n mynd yn groes i’r setliad datganoli, ond mae potensial iddo hefyd achosi dryswch, dyblygu a biwrocratiaeth ychwanegol ddiangen ar adeg pan fo adfer yr economi yn hollbwysig.”

Dywedodd Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Conor Murphy:

“Bydd Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi pwerau pellgyrhaeddol i Lywodraeth Prydain i wneud penderfyniadau ariannu mewn meysydd datganoledig.

“Mae hyn yn bryderus iawn ac fe allai gael effaith enfawr ar Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Ni ddylai Llywodraeth Prydain ymyrryd mewn materion ariannu y mae’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd.

“Mae’n hollbwysig hefyd eu bod yn darparu manylion ynglŷn â chwmpas y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y cyllid hwn yn ffynhonnell hanfodol yn lle cyllid yr UE ar gyfer meysydd datganoledig ac mae’r diffyg trafodaeth ystyrlon hyd yma yn hynod o siomedig.”

For More Hyperlocal News Stories Click on the Banner
,
Related Posts
Latest Posts from Wales News Online