03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwell cysylltiad rhyngrwyd i gymunedau gwledig

MAE cymorth ariannol ar gael i breswylwyr sy’n cael trafferth â chysylltiad rhyngrwyd yng nghymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin.

Mae cynllun newydd wedi’i sefydlu er mwyn helpu preswylwyr gwledig a busnesau bach sydd â llai na 100mbps i gael band eang cyflymach a mwy dibynadwy.

Mae’r Gronfa Uwchraddio Band Eang sy’n rhan o Gynllun Talebau Gigabit y Llywodraeth yn cynnig cyfraniad sylweddol i’r rheiny y mae eu rhyngrwyd yn araf tuag at gost cael cysylltiadau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy i’w cartrefi neu fusnesau.

Mae modd i breswylwyr gwledig gael hyd at £1,500 ac mae modd i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) gael hyd at £3,500 i uwchraddio i fand eang gigabit, sy’n gallu lawrlwytho ar gyflymder o 1 gigabit (1000 megabit) yr eiliad.

Mae’n bosibl y bydd y rheiny sydd â llai na 30 Mbps yn gymwys i gael rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru sy’n dyblu gwerth y daleb, gan fod modd i fusnesau bach a chanolig gael hyd at £7000 a chartrefi gael £3000.

Edrychwch yma i weld a ydych yn gymwys i wneud cais ac mae modd cofrestru tan 30 Medi 2020.

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, sef yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig:

“Rydym yn croesawu’r cynllun newydd hwn a byddem yn annog preswylwyr a busnesau gwledig sydd â chyflymder rhyngrwyd araf i gofrestru yn syth os oes ganddynt ddiddordeb.  Mae cysylltedd digidol yn gyfleustod hanfodol, yn enwedig yn y sefyllfa bresennol gyda phandemig Covid-19 a gorfod gweithio o bell.  Mae wrth wraidd pob agwedd ar fywyd cyfoes sy’n ymwneud â gwaith, teithio, hamdden ac iechyd. Mae cysylltedd cyflym, dibynadwy yn hanfodol i gefnogi twf busnesau, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella iechyd a llesiant, a’i gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Hebddo, byddant yn ei chael hi’n anodd byw bywyd modern.”

Mae preswylwyr a busnesau yn cael eu hannog i gyfuno eu diddordeb i gynyddu’r gronfa gyffredinol y mae gan y gymuned hawl iddi.

Dywedodd y Gweinidog Seilwaith Digidol, Matt Warman:

“Mae band eang gwell yn gwella bywydau pobl ac mae’r llywodraeth yn ei gwneud hi’n haws i gymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin elwa’n economaidd ac yn gymdeithasol o gael band eang gigabit. Gall y rheiny y mae eu rhyngrwyd yn araf dderbyn cyfraniad sylweddol tuag at gostau cael cysylltiadau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy i’w cartrefi neu fusnesau trwy’r fenter hon. Rwy’n annog pobl i gofrestru er mwyn cael gwybod a ydynt yn gymwys i elwa o fand eang y genhedlaeth nesaf.”

%d bloggers like this: