03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio yn cymunedau Abertawe

DISGWYLIR i gyfres o lwybrau cerdded a beicio Teithio Llesol gael eu datblygu mewn ardaloedd yn Abertawe i helpu i wella’r amgylchedd lleol a helpu pobl i gadw’n iach.

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn dros £3 miliwn drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a ddefnyddir i greu nifer o lwybrau defnydd a rennir mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Bydd y llwybrau newydd yn cysylltu â llwybrau cerdded a beicio presennol a byddant yn helpu i ehangu’r isadeiledd beicio a cherdded ar draws Abertawe.

Defnyddir peth o’r arian i greu llwybr cysylltu newydd 900 metr o hyd oddi ar y ffordd rhwng yr A48 a’r DVLA, wrth ochr Clasemont Road.

Crëir hefyd lwybr 1.46km yn ardal Townhill (y Ceunant), a fydd yn cysylltu â Carmarthen Road ac a fydd yn helpu i gysylltu’r llwybr yn uniongyrchol â chanol y ddinas.

Bydd llwybr cysylltu oddi ar y ffordd hefyd yn ardal Treforys, a gwneir gwaith gwella i’r llwybrau sydd eisoes yn bodoli ynghyd â llwybrau cysylltu i’r prif lwybr strategol ar hyd afon Tawe.

Bwriedir hefyd greu llwybrau cysylltu gwell i Barc Menter Abertawe trwy greu llwybr 700 metr o hyd ar hyd Jersey Road, a fydd yn helpu i wella cysylltiadau ar gyfer preswylwyr Winsh-wen.

Meddai Stuart Davies, Pennaeth Cludiant a Phriffyrdd Cyngor Abertawe:

“Mae croeso mawr i’r newyddion yma gan ein bod wedi ymrwymo i gynyddu ein hisadeiledd beicio a cherdded ar draws Abertawe.

“Bydd llawer o’r llwybrau newydd yn cysylltu â llwybrau sydd eisoes yn bodoli, a byddant yn rhoi cyfleoedd gwell i breswylwyr sy’n dewis cerdded a beicio fel ffordd o deithio o gwmpas y ddinas.”

Caiff dros £1 miliwn hefyd ei gynnwys yn y setliad grant ar gyfer gwaith dichonoldeb a dylunio mewn perthynas â’r llwybrau arfaethedig o fewn y Map Rhwydwaith Integredig presennol – map o’r llwybrau a gynigiwyd ar draws y ddinas ar gyfer beicio a cherdded, a gymeradwywyd yn 2018 yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd.

Ychwanegodd Mr Davies:

“Yn ogystal â defnyddio’r arian i greu llwybrau newydd, bydd angen i ni hefyd edrych ar lwybrau posib sydd eisoes wedi’u cynnwys yn ein Map Rhwydwaith Integredig. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein helpu i ystyried pob llwybr a dyluniad posib.

“Bydd y cam nesaf hwn yn cynnwys gwaith ac ymgynghori â chymunedau wrth i ni ddatblygu dyluniadau ac annog pobl leol i chwarae rôl fwy sylweddol mewn creu cysylltiadau cludiant cynaliadwy ac iach sydd o fudd i bawb.”

%d bloggers like this: