03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwersi gyrru ailddechrau yng Nghymru 27 Gorffennaf

MAE Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caiff gwersi gyrru yng Nghymru ailddechrau ar 27 Gorffennaf.

Bydd profion theori gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 3 Awst, ynghyd â phrofion galwedigaethol, beic modur, car a threlar, a phrofion gyrru tractor.

Bydd profion gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 17 Awst, yn ogystal â phrofion hyfforddwyr gyrru a gwiriadau safonau.

Bydd yr Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) yn diweddaru’r canllawiau’n fuan i hwyluso dychwelyd yn ddiogel.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae gwersi a phrofion gyrru yn hanfodol wrth helpu pobl i gyrraedd y gwaith ac ymweld ag anwyliaid – yn ogystal â darparu’r sgiliau ar gyfer oes o yrru’n ddiogel.

“Wrth i Gymru adfer o COVID-19, gallwn ni bellach agor ein gwasanaethau a helpu i gael y wlad yn brysur unwaith eto, ac rwy’n falch iawn cyhoeddi y bydd gwersi gyrru yn ailddechrau – ond mewn modd sy’n diogelu rhag y coronafeirws.”

Dywedodd Prif Weithredwr y DVSA, Gareth Llewellyn:

“Roedd yn hanfodol nad oedd gwersi a phrofion yn ailddechrau nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny, ac yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod hwn wedi bod yn adeg anodd iawn ar gyfer y wlad gyfan, gan gynnwys dysgwyr a hyfforddwyr gyrru, ond mae’n dda gen i gyhoeddi y bydd gwersi a phrofion gyrru yn ailddechrau yng Nghymru.

“Mae profion ar gyfer gweithwyr hanfodol wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau symud, a hoffwn i ddiolch i’r holl hyfforddwyr ac arholwyr sydd wedi parhau i weithio i helpu i ddarparu profion ar gyfer y rheini sydd wedi gwneud cymaint i’n helpu ni yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.”

%d bloggers like this: