04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwiriwr symptomau Covid-19 yn cyrraedd carreg filltir miliwn o ymwelwyr

MAE gwiriwr symptomau ar-lein sy’n helpu pobl benderfynu a yw’n bosibl eu bod wedi eu heintio gyda’r Coronafeirws wedi cael miliwn o ymwelwyr ers creu’r gwiriwr.

Dyluniwyd Gwiriwr Symptomau Covid-19 Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a aeth yn fyw ddechrau Mawrth, i gyfeirio defnyddwyr at y gofal mwyaf priodol a lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth 111.

Er mwyn ategu’r pecyn hunan asesu ar wefan 111 GIG Cymru, yr wythnos hon mae tudalen Facebook gyfatebol 111 GIG Cymru wedi lansio sgyrsfot i alluogi’r cyhoedd wirio eu symptomau trwy gyfrwng y cyfrwng cymdeithasol hwn hefyd.

Dywedodd Andy Haywood, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol yr Ymddiriedolaeth: “Mae’r Gwiriwr Symptomau Covid-19 yn becyn newydd gwych wrth reoli’r galw yn ystod y pandemig.

“Mae wedi ateb dros filiwn o gwestiynau heb fod angen galw ein hystafelloedd rheoli prysur, ac mae wedi cynorthwyo pobl i ddeall beth i’w wneud os oes ganddyn nhw symptomau Coronafeirws, p’un ai hunan ynysu neu hunan ofal, ffonio eu meddyg teulu neu, ar y gwaethaf, ffonio 111 neu 999.

“Bydd y cyfleuster Sgyrsfot ar y dudalen Facebook yn gweithredu fel ail blatfform i’r gwiriwr symptomau, sy’n ei wneud yn fwy hygyrch, a gall gyfeirio pobl at y cyngor a’r wybodaeth sydd ei angen arnynt hyd yn oed yn gyflymach.

“Bydd y Sgyrsfot ar gael ar wefan 111 GIG Cymru hefyd.”

Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd Senseforth.AI a FinTech Wales i greu a gweithredu’r Sgyrsfot. Cynigiodd y ddau gwmni eu gwasanaethau am ddim.

Bu gwaith yn digwydd am rai wythnosau i sefydlu’r Sgyrsfot ar dudalen Facebook 111 GIG Cymru, ac yn Gymraeg hefyd.

Dywedodd Gavin Powell, Ysgrifennydd Cyffredinol FinTech Wales: “Mae wedi bod yn anhygoel medru cynnig ein gwasanaeth am ddim i helpu llunio rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r ymateb i Covid-19 ar unwaith.

“Nawr bod y cynnig hwn yn ei le mae’n braenaru’r tir i Senseforth.AI gynnig cymhorthion Deallusrwydd Artiffisial eraill i’r gwasanaeth sgyrsfot i gefnogi a gwella profiad pobl Cymru ymhellach pan yn defnyddio’r gwasanaeth 111.”

Ychwanegodd Errol Finkelstein, Rheolwr Gyfarwyddwr Senseforth.AI yn y Deyrnas Unedig, Ewrop ac Affrica, sydd wedi’i leoli ym Mae Caerdydd: “Bydd y Sgyrsfot yn arwain pobl trwy’r gwiriwr symptomau Covid-19 yn rhwydd ac yn gyflym, tra’n cadw at ganllawiau clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Bydd y Sgyrsfot hefyd yn lleihau llwyth gwaith y canolfannau galwadau, ac yn cynorthwyo gweithwyr ambiwlans a staff cymorth eraill hefyd, gan helpu pawb.

“Mae’n bleser gweithio gydag 111 GIG Cymru a FinTech Wales. Dymunwn y gorau i holl staff gwych y GIG.”

Gwnaeth Llywodraeth Cymru chwarae rôl allweddol yn dod â Senseforth.AI, FinTech Wales a’r gwasanaeth ambiwlans at ei gilydd i gynorthwyo i ddatblygu’r syniad.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae hwn yn enghraifft arall o’r argyfwng Covid-19 yn sbarduno arloesi i leihau’r pwysau ar y system gofal iechyd a gwella’r modd mae pobl yn cael gwybodaeth.

“Mae hyn yn meddu ar y potensial i achub bywydau a rhyddhau adnoddau i’w defnyddio lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf.

“Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi medru manteisio ar arbenigedd ein ecosystem FinTech sy’n ffynnu, ac rwy’n awyddus i weld sut y medrwn ni ddefnyddio’r enghraifft hwn i annog gwneud defnydd gwell o dechnolegau digidol ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus.”

Ychwanegodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Hoffwn gymeradwyo busnesau ar draws Cymru sy’n defnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal.

“Mae busnesau fel Senseforth.AI a FinTech Wales wedi ymateb i’r her ac arallgyfeirio er mwyn cynorthwyo i warchod y GIG ac achub bywydau.”

%d bloggers like this: