03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

‘Gwobr Genedlaethol Ysgolion Anogol’ i Ysgol Fabanod Cwmaber

YN ddiweddar, cafodd y Wobr Genedlaethol Ysgolion Anogol ei dyfarnu i Ysgol Fabanod Cwmaber.

Mae’r Rhaglen Genedlaethol Ysgolion Anogol yn daith dros ddwy flynedd ar gyfer pob ysgol gyda’r nod o gynorthwyo eu disgyblion a’u rhanddeiliaid. A hithau’n seiliedig ar chwe egwyddor anogaeth, mae’r rhaglen yn galluogi ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori diwylliant anogol sy’n gwella ymgysylltiad rhanddeiliaid.  Mae’r rhaglen wedi’i datblygu gan ‘Nurtureuk’, awdurdod blaenllaw’r byd ar gyfer anogaeth mewn addysg a chorff dyfarnu’r Dystysgrif mewn Theori ac Ymarfer Grwpiau Anogaeth’, y cymhwyster â chydnabyddiaeth genedlaethol ar gyfer rhedeg grŵp anogaeth mewn ysgolion.

Nododd crynodeb yr asesydd yn yr adroddiad, “Mae’n amlwg o gynnwys y ffurflen gais a’r ffolder tystiolaeth bod gan Ysgol Fabanod Cwmaber ffocwsa dealltwriaeth gadarn o berthnasau cadarnhaol ac ymarfer cynhwysol. Roedd staff, wrth ysgrifennu’r ffurflen gais ac mewn trafodaethau yn ystod yr ymweliad achredu, yn defnyddio geirfa sy’n adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ddatblygiad a lles dysgwyr uchelgeisiol a galluog, cyfranwyr mentrus a chreadigol, dinasyddion moesegol a gwybodus ac unigolion iach a hyderus. Defnyddiodd staff geiriau fel gofalgar, bywiog, diogel a gwerthfawr, roedden nhw’n gweld eu rôl fel un sy’n darparu cysondeb, cymorth, gofal a disgwyliadau uchel.

Yn ogystal â hynny, roedd disgyblion yn cael ei disgrifio fel “hapus, cyfforddus, hyderus a chyfeillgar” gyda staff yn cael eu canmol am eu dull “agored a siriol”. Ar ôl siarad â disgyblion o flwyddyn 2, roedd gan yr asesydd yr argraff bod “y rhain yn blant a oedd, o’u cysylltiad cynharaf â’r ysgol, wedi cael cymorth i ddatblygu llythrennedd a deallusrwydd emosiynol ac yn gallu troi at oedolion am help a chymorth â hyder”.

Dywedodd Bethan Davies, Pennaeth Gweithredol Ysgol Fabanod Cwmaber:

“Rydw i wrth fy modd bod amgylchedd hynod gynnes ac anogol ein hysgol wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr hon.”

Meddai’r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg a Chyflawniad:

“Rwy’n falch bod Ysgol Fabanod Cwmaber wedi cael y gydnabyddiaeth genedlaethol y mae’n ei haeddu’n fawr.  Mae’r wobr yn adlewyrchu’r effaith cadarnhaol a phwysig y mae ymrwymiadau’r ysgol, staff, disgyblion a rhieni i amgylchedd anogol wedi cyflawni ar draws yr ysgol.”

%d bloggers like this: