Cystadleuaeth Aelod Iau y Flwyddyn
Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mrs Mair Jones a Mrs Eleri Jenkins.
Neges gan y beirniaid:
Cystadleuaeth o safon uchel uchel iawn. 14 wedi ymgeisio ac fe all y 14 fod wedi cael y teitl o aelod iau y flwyddyn am eu gwaith gwych yn ystod y flwyddyn gyda’u Clwb ac yn eu Cymunedau.
Rhiannon Jones o CFFI Dyffryn Tywi gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Iau CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2019-20. Mae Rhiannon yn 17 Mlwydd Oed – Blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac yn astudio Cymraeg, Bwyd a maeth ac Amaethyddiaeth.
Mae Rhiannon wedi bod yn ysgrifennydd Rhaglen ar y Clwb a bellach yn Ysgrifennydd Cofnodion ar y Clwb ac mae’n aelod o Fforwm Ieuenctid y Sir.
Un o brif uchafbwyntiau Rhiannon oedd cystadlu yng nghystadleuaeth rownderi yn Stafford. Fe ddaeth y Clwb yn bedwerydd ar ddiwedd y dydd ond yn bwysicach na hynny roedden wedi gwneud ffrindiau gydag aelodau eraill o’r mudiad ar draws Lloegr a Chymru. Un o’r profiadau mwyaf bythgofiadwy cafwyd yn ystod y diwrnod oedd diddordeb aelodau eraill am fod aelodau Clwb Dyffryn Tywi a’r Sir a chefnogwyr yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd. Gwelom bwysigrwydd o siarad yr iaith.
Uchelgais Rhiannon tu allan y CFFI yw llwyddo yn ei arholiadau Lefel A ac wedi hynny, yr uchelgais yw cael ei derbyn i Brifysgol Aberystwyth i astudio cwrs Amaethyddol a Busnes.
Mae teithio i Seland Newydd wedi bod yn freuddwyd ers blynyddoedd I Rhiannon hefyd er mwyn gweld y modd o fyw yno a system amaethyddol y wlad.
Cystadleuaeth Aelod Hŷn y Flwyddyn
Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mrs Christina Jenkins a Mrs Angharad Rees.
Neges gan y beirniaid:
Er mai ond dwy aelod cystadlodd yn y gystadleuaeth yma, fe all unrhyw un o’r ddwy wedi cael y teitl o aelod hyn y flwyddyn. Roedd y ddwy yn angerddol iawn dros y Mudiad ac mae’r ddwy wedi gwneud gwaith gwych iawn dros eu Clybiau, dros y Sir a’i chymuendau. Roedd gan y ddwy syniadau o sut i ddatblygu’r Mudiad a gobeithio bydd y ddwy yn dilyn y gweledigaethau yma. Llongyfarchiadau i’r ddwy – dylem fod yn browd iawn.
Mared Evans o CFFI Penybont gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Hŷn CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2019-20. Mae Mared yn 25 mlwydd oed ac yn Athrawes Gynradd yn Ysgol Bro Teifi.
Swyddi mae Mared wedi’i ddal ar lefel Clwb – Ysgrifennydd Cofnodion, Is-Ysgrifennydd, Ysgrifennydd, Is-Gadeirydd, Cadeirydd, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau Cymdeithasol.
Swyddi ar lefel Sir – Dirprwy Lysgenhades y Sir, Aelod o Bwyllgor Cyllid CFFI Sir Gâr, Cynrychioli Sir Gâr ar Bwyllgor Digwyddiadau a Marchnata CFFI Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Mared wedi cystadlu yn Siarad Cyhoeddus CFFI Cymru 2019, Rali’r Sir, Eisteddfod Sir ac Eisteddfod CFFI Cymru, Cwis y Sir a Noson Chwaraeon y Sir.
Roedd Mared hefyd wedi hyfforddi tîm dan 21 oed CFFI Llanllwni ar gyfer y gystadleuaeth Siarad Gyhoeddus Cymraeg a Saesneg – gyda tim dan 21 Cymraeg yn ennill ar lefel Sirol ac yn mynd ymlaen i lefel CFFI Cymru.
Cystadlodd gyda thîm dan 26oed CFFI Penybont yn Siarad Cyhoeddus Cymraeg a Saesneg ac yn cael ei dewis fel y cadeirydd gorau i fod yn aelod o dîm Sir Gâr yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y gystadleuaeth Genedlaethol ym mis Mawrth 2020.
Uchelgais Mared tu allan y CFFI yw gorffen adnewyddu ei chartref cyntaf a byw ynddo yn hapus. Mae Mared yn gobeithio hefyd roi nôl i’r gymuned am yr holl brofiadau mae wedi ei dderbyn drwy gefnogi’r mudiadau/clybiau mae wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan ohonynt. Mae ganddi ddyled enfawr i Aelwyd Hafodwenog a Dawnswyr Talog ac, heb os nac oni bai, i fudiad y ffermwyr ifanc ac i CFFI Penybont.
Cystadleuaeth Cais am Swydd
Beirniaid y gystadleuaeth hon oedd Mrs Christina Jenkins a Mrs Angharad Rees.
Neges gan y beirniaid:
Cystadleuaeth safonol iawn iawn – byddai’r chwech cystadleuwyr wedi dod ben a chael swydd yn ei meysydd gwahanol. Llongyfarchiadau i’r chwe aelod.
Sioned Howells o CFFI Llanllwni ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth yma. Mae Sioned yn 20 mlwydd oed ac yn astudio Bydwreigiaeth BMid yn yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe.
Mynychodd Ysgol Bro Teifi a buodd yn brif ferch yn 2017-18.
Fel aelod mae Sioned wedi bod yn Ohebydd ar y wasg ac yn ysgrifennydd cofnodion gyda’r Clwb ac yn 2017 hi oedd aelod iau y Flwyddyn dros y Sir. Mae hefyd wedi cystadlu yn nifer fawr o cystadleuthau megis Siarad Cyhoeddus, Adloniant, Rali’r Sir ac yn yr Eisteddfod.
Y swydd aeth Sioned am: “swydd Gweithiwr Cynorthwyol ar y Ward Oncoleg” gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Cystadleuaeth Drama Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin
Cynhaliwyd cystadleuaeth Drama Cymraeg a Saesneg C.Ff.I Sir Gâr yn Neuadd y Gwendraeth yn ddiweddar. Bu pedair noson o gystadlu brwd gydag un clwb yn cystadlu yn y Ddrama Saesneg a naw clwb yn y Ddrama Cymraeg.
C.Ff.I Llanymddyfri aeth a’r cwpan yn yr adran Saesneg gyda’u perfformiad o “Murder at the Moorhead Manor”. Yn yr Adran Gymraeg, C.Ff.I Llangadog daeth i’r brig gyda’u perfformiad o “i”, gyda C.Ff.I Llanllwni yn ail, a C.Ff.I Dyffryn Cothi (Du) yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i’r holl glybiau am berfformiadau gwych.
Fe aeth y gwobrau am yr unigolion gorau yn yr Adran Gymraeg a’r Saesneg i’r canlynol:
Perfformiwr gorau 18 oed neu’n iau: Iwan Thomas, C.Ff.I San Ishmael
Perfformwraig orau 18 oed neu’n iau: Lois Davies, C.Ff.I Llangadog
Perfformiwr gorau 26 oed neu’n iau: Owain Davies, C.Ff.I Llanllwni
Perfformwraig orau 26 oed neu’n iau: Rhian Hughes, C.Ff.I Llanymddyfri
Cynhyrchydd Gorau: Gary Davies, C.Ff.I Llanllwni
Fe fydd C.Ff.I Llanymddyfri a Llangadog yn cynrychioli Sir Gâr yn rownd derfynol y gystadleuaeth Ddrama ar lefel Cymru yng Nghaernarfon. Pob lwc iddynt.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n beirniad sef Mr Euros Lewis am ei waith yn ystod yr wythnos. Diolch hefyd i bawb fuodd yn cynorthwyo yn ystod yr wythnos a diolch arbennig i Dafydd Lloyd George a Nia Thomas a fu’n gweithio’n ddiwyd wrth y golau a’r sain. Diolch arbennig hefyd i’r holl a fuodd yn helpu gyda’r parcio, yn y drws, gwerthu raffl a Swyddogion y Sir am fod yng ngofal y siop yn ogystal â chyflwyno’r dair noson.
Ni fyddai’r wythnos wedi bod yn bosib heb ein noddwyr sef Cyngor Sir Gaerfyrddin, Hefin Jones a HB Enoch & Owen a hefyd i Undeb Amaethwyr Cymru am noddi’r gwobrau.
More Stories
Conservatives’ Lack of Action on Obscene Energy Profits “Indefensible” says Welsh Lib Dems
New Audit Office Report on Poverty in Wales supports Plaid Cymru’s calls
Successful Operation targeting anti-social driving across Newport and Monmouthshire