04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Barbecue grill with fire on nature, outdoor, close up

Gwybodaeth Ddiogelwch ar gyfer tywydd poeth

GYDA’R rhagolygon am dywydd cynnes, heulog a sych, am gyfle perffaith i ddechrau mwynhau’r cefn gwlad a’r traethau bendigedig sydd gennym i’w cynnig.  Fodd bynnag, ers dechrau’r haf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymateb i 280 o danau glaswellt a oedd naill ai wedi’u dechrau’n fwriadol neu’n ddamweiniol.

Gan gydnabod yr effaith y mae’r tanau hyn yn ei chael ar ein cymunedau, mae GTACGC yn gweithio mewn partneriaeth â’r pedwar Awdurdod Lleol, Heddlu Dyfed Powys a De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW mewn ymgais i fynd i’r afael â’r broblem hon a diogelu’r cynefinoedd naturiol a’r cefn gwlad o’n cwmpas.

Yn ystod yr haf, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y bydd tân y byddwch yn ei gynnau’n fwriadol neu’n ddamweiniol yn yr awyr agored yn ymledu’n gyflym dros ben, gan ddinistrio popeth sydd o’i flaen.  Ar y cyfan, ni chaiff y niwed i’r dirwedd oddi amgylch, na’r effaith ar gynefinoedd na bywyd gwyllt, eu cydnabod.

Mae’r cyhoedd yn cael ei annog i gymryd rhagofalon a dilyn y cyngor ar ddiogelwch isod:

Diffoddwch sigaréts a deunyddiau smygu eraill yn gywir – peidiwch â’u taflu allan o ffenestri ceir.

Defnyddiwch farbeciws mewn ardaloedd addas a diogel yn unig; peidiwch byth â’u gadael heb neb yn cadw golwg arnynt, a diffoddwch nhw’n iawn bob amser.

Peidiwch â chynnau tanau yng nghefn gwlad – mae llystyfiant sych yn golygu y bydd tanau’n lledaenu’n gyflym ac yn hawdd.

Sicrhewch fod eich barbeciw yn gweithio’n iawn cyn i chi ei ddefnyddio.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael i’ch barbeciw oeri cyn cael gwared arno neu ei symud.

Peidiwch byth â chynnau tanau agored yng nghefn gwlad.

Dywedodd Richie Vaughan-Williams, y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Cyfrifoldeb pawb yw amddiffyn ein cefn gwlad rhag tanau gwyllt. Mae llawer o’r tanau’n cael eu cynnau’n fwriadol ond mae rhai’n digwydd trwy esgeulustod neu ddiflastod. Mae hyn yn rhwystredig pan fydd ein criwiau tân wedyn yn gallu cael eu cadw am oriau mewn amodau anodd yn ceisio atal y difrod, sydd weithiau’n gallu peri oedi cyn mynd i argyfyngau eraill. Byddwn yn annog pawb i ystyried eu gweithredoedd wrth fwynhau cefn gwlad ac i osgoi cynnau tanau o gwbl.” 

Mae angen i ni gydweithio i gefnogi ein cymunedau er mwyn sicrhau diogelwch ein teulu a’n ffrindiau, ein cymdogion, aelodau o’r cyhoedd a’n Gwasanaethau Brys. Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd aer ac yn tynnu gwasanaethau brys gwerthfawr i ffwrdd o ddigwyddiadau achub bywyd, felly rydym yn apelio ar bawb i’n helpu ni i’w helpu nhw.

%d bloggers like this: