MAE Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd – un o’r digwyddiadau rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd yng nghalendr yr haf – yn dychwelyd ym mis Gorffennaf am y tro cyntaf ers y pandemig.
Mewn arwydd bod y ddinas yn parhau i ddychwelyd i’r arfer ar ôl y bwlch gorfodol, mae’r ŵyl yn ôl yn ei lleoliad rheolaidd yn Roald Dahl Plass ym Mae Caerdydd o Ddydd Gwener, 1 Gorffennaf i Ddydd Sul, 3 Gorffennaf gyda llu o stondinwyr rheolaidd a digon o rai newydd, i gyd yn cynnig amrywiaeth ysblennydd o gynnyrch a danteithion lleol o bob cwr o’r byd.
“Mae’r Ŵyl Fwyd a Diod bob amser yn rhywbeth i edrych ymlaen ato fel y bu ers iddi ddechrau dros 20 mlynedd yn ôl,” meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies.
“Mae gennym lu o ddigwyddiadau anhygoel ar y gweill ar gyfer yr haf a fydd i gyd yn dod â gwên i wynebau pobl. Ond mae hyn hefyd yn rhan allweddol o economi Caerdydd ac rydym yn disgwyl i filoedd o bobl ddod draw yn ystod y tridiau a mwynhau’r hyn fydd ar gael.”
Ymhlith y 100 a mwy o stondinau yn y digwyddiad eleni mae rhai o’r prif hen ffefrynnau, fel SamosaCo, gyda’i wyau selsig bhaji winwns, Seidr Gwynt y Ddraig, o Lanilltud Faerdref, a The Mighty Softshell Crab, ynghyd â newydd-ddyfodiaid gan gynnwys Old Bakery Gin, un o nifer o arbenigwyr jin sy’n mynychu, Fferm Tsili Sir Benfro a’r bwyd stryd arobryn gan Keralan Karavana a ysbrydolwyd gan Ddeheudir India.
Er y bydd digon o stondinau’n gwerthu bwyd parod i’w fwyta, bydd llawer o bwyslais yr ŵyl eleni ar y cyfle i brynu cynnyrch a chynhwysion i’w cludo adref, fel sbeisys a marinadau, a chreu eich danteithion eich hun o’r tueddiadau coginio diweddaraf.
Bydd yno hefyd raglen lawn o gerddoriaeth gydol pob un o dri diwrnod yr ŵyl.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m