03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gŵyl Gorau Gogledd Cymru – Mawrth 2022

BYDD Gŵyl Gorau Gogledd Cymru yn ôl yn Venue Cymru, Llandudno, 5-6 Mawrth 2022 gyda’i enw newydd Gŵyl Gorau Gogledd Cymru yn lle Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru.

Ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul bydd y cystadlaethau’n parhau yn ystod y dydd, gyda Chyngerdd Dathlu’r Ŵyl ar y nos Sadwrn. Y categorïau cystadlu yw Corau Cymysg a Ieuenctid ar y dydd Sadwrn, gyda’r Corau Ychydig o Hwyl a Chorau Merched ar y Dydd Sul. Mae Cyngerdd Dathlu’r Ŵyl ar y nos Sadwrn yn noson lle gall y corau fwynhau perfformio heb boeni am lygaid barcud y beirniaid!

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae trefnwyr yr Ŵyl yn llawn cyffro am yr elfen newydd, dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ogystal â’r Ŵyl Gorau, yn llawn diwylliant a brwdfrydedd. Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer penwythnos na fydd unrhyw un sy’n caru corau eisiau ei fethu. Un o nifer o brofiadau diwylliannol a gynigir gan Sir Conwy. I gael tocynnau neu fwy o wybodaeth ewch i www.gwylgoraugogleddcymru.com

Mae Venue Cymru yn falch o fod yn rhan o ymgyrch Theatr y DU, Caru eich Theatr Leol. Efallai y gallwch chi fanteisio ar y cyfle i brynu un tocyn a chael un arall am ddim, diolch i’r Loteri Genedlaethol. Mae’r tocynnau yn amodol ar argaeledd ac mae’r cynnig yn dod i ben unwaith y mae’r dyraniad ariannol wedi’i wario.

%d bloggers like this: