04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Haf o Hwyl gwerth £7m i gefnogi plant a phobl ifanc yn cychwyn

MAE cynllun Haf o Hwyl gwerth £7 miliwn Llywodraeth Cymru yn dychwelyd am yr ail flwyddyn i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Gan adeiladu ar lwyddiant Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd y cynllun yn cael ei gynnal rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi gan helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliant a chwarae.

Bydd y gweithgareddau yn rhad ac am ddim ac yn gynhwysol i blant a phobl ifanc 0-25 oed, o bob cefndir a phob rhan o Gymru. Byddant yn cael eu cynnal yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Yr haf diwethaf, ymunodd dros 67,500 o blant mewn amrywiol weithgareddau Haf o Hwyl ledled Cymru gan gynnwys gweithgareddau cerddoriaeth, theatr, chwaraeon yn y môr, dringo a weiren wib.

Mewn gwerthusiad annibynnol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, dywedodd bron pawb a fynychodd y llynedd eu bod wedi cael hwyl. Dywedodd 88% o’r cyfranogwyr fod y cynllun wedi eu helpu i fod yn fwy egnïol ac roedd 73% yn teimlo iddo eu helpu i reoli eu hiechyd meddwl.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Yn wreiddiol, fe wnaethon ni lansio Haf o Hwyl mewn ymateb i weld plant yn colli cyfleoedd i gymdeithasu yn sgil y pandemig, ond ar ôl gweld pa mor llwyddiannus ydoedd, penderfynom gynnal y cynllun eto.

Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol rydyn ni wedi buddsoddi mewn cyfleoedd chwarae, gan sicrhau bod dros £42m ar gael ers 2013.

Eleni byddwn hefyd yn cefnogi darparwyr i gynnig bwyd yn eu gweithgareddau, gan helpu gyda rhai o’r problemau difrifol sy’n ein hwynebu heddiw o ran plant yn llwgu yn ystod y gwyliau a’r argyfwng costau byw.”

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru i’w gweld ar wefannau awdurdodau lleol.

%d bloggers like this: