04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Heddlu De Cymru yn lansio Ymgyrch Adar Môr Cymru i ddiogelu bywyd gwyllt yr arfordir

MAE Heddlu De Cymru, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys, yn lansio Ymgyrch Adar Môr Cymru, sef menter ar y cyd gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt sensitif ar hyd y morlin a sut y gall newidiadau syml mewn ymddygiad leihau’r pwysau ar anifeiliaid.

Bydd y timau yn gweithio ochr yn ochr â’r RSPCA a Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, RSPB a Llywodraeth Cymru i weithio tuag at ddealltwriaeth well o’r ecosystemau bywyd gwyllt bregus ar hyd yr arfordir.  Bydd cydgysylltwyr ymgysylltu gwledig Heddlu De Cymru yn patrolio’r arfordir ar y tir, a bydd yr Uned Forol yn gwneud yr un peth ar y dŵr.

Mae ardal Heddlu De Cymru yn ymestyn dros ryw 100 milltir o arfordir sy’n cynnwys Gŵyr, Porthcawl, Penarth, Bae Caerdydd a llawer o fannau poblogaidd eraill ymhlith twristiaid ar hyd y ffordd, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Er bod croeso i dwristiaeth a’i bod yn bwysig iawn i economïau lleol, gall y cynnydd yn y gweithgareddau hamdden sy’n cael eu cynnal ar hyd yr arfordir gynyddu’r pwysau ar fywyd gwyllt pwysig ar y môr. Mae gan unrhyw weithgaredd hamdden y potensial i aflonyddu ar fywyd gwyllt os na chaiff ei wneud mewn modd diogel a chyfrifol, ac wrth i ymweliadau â’r arfordir fynd yn fwy poblogaidd, mae aflonyddu ar fywyd gwyllt yn broblem sydd ar gynnydd mewn nifer o ardaloedd. Mae llawer o ardaloedd o arfordir Cymru yn rhan o rwydwaith y DU o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) a chânt eu diogelu gan ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dros fisoedd yr haf, bydd Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau gweithredu a fydd yn gweld swyddogion y Cydgysylltwyr Gwledig a Bywyd Gwyllt yn ymweld â busnesau ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o’r effaith y gall gweithgareddau hamdden ei chael ar fywyd gwyllt yr arfordir.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jenny Gilmer:

“Rydym yn ffodus bod gennym filltiroedd o arfordir hardd yn Ne Cymru sy’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt morol ac adar môr.

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio Ymgyrch Adar Môr Cymru ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gwent.

“Bydd hyn yn helpu i ddiogelu cynefinoedd rhag ymddygiad sy’n aflonyddu ar fywyd gwyllt ac yn addysgu pobl sy’n ymweld â’n harfordir sut i ymddwyn yn gyfrifol o gwmpas bywyd gwyllt morol.”

Meddai Geoff Edmond, Cydgysylltydd Bywyd Gwyllt Cenedlaethol yr RSPCA:

“Rydym am i bobl fwynhau gwylio ein bywyd gwyllt morol ond dylid gwneud hyn o fewn pellter diogel a synhwyrol, heb aflonyddu ar yr anifeiliaid.

“Bob blwyddyn, mae’n rhaid i ganolfannau bywyd gwyllt yr RSPCA drin ac adsefydlu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys morloi ac adar môr, sydd wedi cael eu hanafu neu eu hamddifadu oherwydd aflonyddwch dynol. 

“Gall fod yn destun rhyfeddod a chyffro i lawer o dwristiaid weld mamaliaid y môr, sy’n cynnwys morloi a’u lloi bach, a fydd fel rheol yn gorffwys ar y traeth ar wahanol adegau o’r flwyddyn, yn ogystal ag adar nythu ar y tir sydd fel arfer yn dod yma rhwng mis Mawrth a mis Medi. Ond er y gall fod yn demtasiwn i fynd atynt, gofynnwn yn barchus i bawb gadw pellter a chadw eu cŵn ar dennyn ac o dan reolaeth. 

“Ein neges yw ‘Arsylwi, Dim Aflonyddu’ wrth i bobl ymweld ag arfordir bendigedig Prydain.

“Os oes gan bobl bryderon am anifail, dylent gadw eu pellter a chysylltu â llinell gymorth yr RSPCA ar 0300 1234 999 (bob dydd 7am-10pm).”

Ychwanegodd Rob Taylor, Cydgysylltydd Gwledig a Bywyd Gwyllt Heddlu Cymru:

“Y fenter wych hon yw’r un gyntaf o’i bath i Gymru ac wrth i’r heddlu a’n hasiantaethau partner gydweithio, gallwn ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r cyhoedd sy’n ymweld â’n harfordir a’r môr, er mwyn iddynt wneud hynny’n ddiogel a heb aflonyddu ar ein bywyd gwyllt gwerthfawr.”

%d bloggers like this: