04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Help i ddysgwyr gymryd eu camau nesaf wrth i Gymru symud ymlaen

MAE’R cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio £150m o fuddsoddiad ychwanegol yn 2021-22 i barhau i gefnogi dysgwyr, athrawon a staff ar bob lefel i helpu i adfer y system addysg yng Nghymru yn dilyn y pandemig.

Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael â phedair her allweddol, sef:

helpu dysgwyr i ddatblygu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu
cynorthwyo dysgwyr i barhau i wneud cynnydd
cefnogi ymarferwyr ar gyfer eu llesiant eu hunain
parhau i symud tuag at ddiwygio mewn addysg
Mae’r cynlluniau’n barhad o’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys:

£33m i gefnogi dysgwyr amser llawn rhwng 16 a 19 oed sy’n dechrau cyrsiau Safon Uwch neu ddarpariaeth alwedigaethol naill ai mewn chweched dosbarth neu goleg AB
£24m i barhau i gefnogi a mentora dysgwyr drwy’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gadw’r 1800 o staff cyfwerth ag amser llawn a gafodd eu recriwtio ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021
£23.2m o gyllid ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, gan olygu y bydd dros £110 miliwn yn cael ei wario ar brydau ysgol am ddim yn 2021-2022
£15m ar gyfer technoleg addysgol mewn ysgolion drwy raglen Technoleg Addysg Hwb, i wella seilwaith digidol mewn ysgolion a gynhelir
Dywedodd y Gweinidog:

Hoffwn ddiolch i’r holl staff mewn ysgolion, colegau a lleoliadau, am eu hymrwymiad a’u hymroddiad.

Cydnabuwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym yn ystod y pandemig i gefnogi dysgwyr. Mae’r cynllun sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn nodi sut y byddwn yn parhau i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr ar draws pob lleoliad; yn enwedig y rhai difreintiedig ac agored i niwed, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ddysgwyr blynyddoedd cynnar ac ôl-16.

Rydym hefyd yn sicrhau bod y proffesiwn addysgu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud y gwaith y maent yn y sefyllfa orau i’w wneud.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn sail i’n holl waith wrth barhau â’n hadferiad o’r pandemig, gan gynnwys y cynllun Adnewyddu a Diwygio. Mae’r pandemig wedi dangos y gwydnwch a’r hyblygrwydd rhyfeddol o fewn y sector, a rhaid inni ddysgu o hynny.

Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithwyr addysgu proffesiynol a’n partneriaid addysg ehangach, i ddatblygu ein hymateb i’r pandemig wrth i ni symud tuag at ddiwygio’r cwricwlwm.

Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan dystiolaeth a phrofiadau’r rhai dan sylw, a nifer o astudiaethau achos sy’n asesu effaith y pandemig ar addysg. Mae’r pynciau sy’n cael eu trafod ynddo yn cynnwys yr effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg; dysgu cyfunol a dysgu o bell, a lles gweithwyr proffesiynol a disgyblion.

%d bloggers like this: