04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Helpwch i lywio cynllun gweithredu amgylcheddol Cwm Garw Uchaf

MAE preswylwyr sy’n byw, gweithio neu’n ymweld â Chwm Garw Uchaf yn cael cyfle i lywio cynllun gweithredu amgylcheddol i’r ardal.

Bydd y cynllun, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Tîm Datblygu Gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Cymuned Cwm Garw, yn fras yn cwmpasu’r ardal rhwng Blaengarw a Phontycymer uchaf.

Ei nod yw gwneud y mwyaf o’r asedau naturiol sydd eisoes yn bodoli, gan wneud gwelliannau lle mae eu hangen ac arddangos yr ardal fel cyrchfan i ymwelwyr. Bydd yn cael ei ddefnyddio i fod yn sail i ddarpariaeth dros y pum mlynedd nesaf, yn darparu fframwaith ar gyfer cyllid grant, i gyflawni’r camau gweithredu sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun.

Mae Cwm Garw Uchaf yn ardal o harddwch naturiol, ac yn cynnig cyfleoedd da ar gyfer cerdded a beicio, ac i fwynhau’r tirlun anhygoel a’r amgylchedd naturiol.

Gofynnir i breswylwyr gymryd rhan i sicrhau bod y cynllun gweithredu yn adlewyrchu’n fanwl gywir eu safbwyntiau ac yn bodloni anghenion Cwm Garw Uchaf, yn arbennig Blaengarw a Phontycymer.

Mae’r ymgynghoriad yn agored hyd at ddydd Llun 26 Ebrill – dudalen we arolwg Cynllun Gweithredu Amgylcheddol Cwm Garw Uchaf (External link – Opens in a new tab or window) i gymryd rhan.

Mae gweithdy ar-lein hefyd yn cael ei gynnal ddydd Llun 26 Ebrill os hoffech drafod eich safbwyntiau ymhellach. I ymuno, anfonwch e-bost at .

Hawlfraint Andrew Hill

%d bloggers like this: