04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hwb Cyflogaeth dros dro yn agor yn y Cwadrant

MAE hwb cyflogaeth dan yr un to cyntaf o’i fath yn Abertawe wedi agor yn y Cwadrant.

Mae gwasanaeth cyflogadwyedd Cyngor Abertawe, Abertawe’n Gweithio, ynghyd â’i bartneriaid, wedi agor yr hwb dros dro yn Uned 9 yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant gyferbyn â siop HMV.

Mae’n darparu ystod o gefnogaeth i helpu pobl yn Abertawe gael mynediad at y farchnad gyflogaeth.

Mae gwasanaethau’n cynnwys; diwrnodau cyflogwyr, digwyddiadau cyflogaeth benodol, hyfforddiant a llawer mwy.

Diolch i bartneriaid fel Canolfan yr Amgylchedd, Barnardo’s Abertawe, Whitehead Ross a Gweithffyrdd mae cyngor a chefnogaeth hefyd ar yr argyfwng costau byw, budd-daliadau lles a dyled.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh:

“Drwy leoli’r gwasanaeth dros dro hwn yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant, mae e’ mor ganolog a hygyrch â phosib i holl breswylwyr Abertawe.”

Cynhelir diwrnod recriwtio gyda phrif gwmni diogelwch a lletygarwch ar brynhawn dydd Gwener 17 Mehefin a bydd diwrnodau recriwtio gyda Ninja Warrior ar 18 a 22 Mehefin.

%d bloggers like this: