03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hwb i gleifion a staff gyda sganiwr CT newydd gwerth £2.2m yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili

MAE cleifion ar draws de-orllewin Cymru wedi cael hwb yn dilyn gosod
sganiwr CT newydd sbon gwerth £2.2m yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Mae’r sganiwr, sydd wedi’i ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru, yn
ymgorffori’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael a bydd yn gwella profiad
y claf yn sylweddol gyda gwell datrysiad ac amseroedd sgan cyflymach.

Bellach gellir perfformio sganiau o’r garddwrn a phenelin gyda’r claf yn
eistedd mewn cadair, a gellir perfformio’r ddelwedd mewn 4D. Gellir cael
sganiau cardiaidd mewn un curiad calon a bydd yn galluogi i Ysbyty
Glangwili i ddarparu gwasanaeth CT Cardiaidd i’n cleifion ac mae’r
sganiwr newydd yn golygu y gellir gwneud sganiau ymennydd mewn un
cylchdro (0.40 eiliad), a fydd o fudd i gleifion pediatrig. Mae gan y
sganiwr hefyd hyd bwrdd estynedig sy’n golygu y gallwn sganio o’r pen
i’r traed.

Dywedodd Sarah Procter, Radiograffydd Arolygol Arweiniol yn Ysbyty
Cyffredinol Glangwili:

“Rydym wrth ein bodd i gael y darn hwn o dechnoleg yn y bwrdd iechyd.
Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cleifion ac yn cynhyrchu
ansawdd delwedd llawer uwch. Diolch i bawb a fu’n ymwneud â chaffael,
adeiladu a gosod.”

Yn ychwanegol, mae Adran Radioleg yr ysbyty hefyd wedi’i hailgynllunio’n
ofalus i wella profiad y claf, ac mae ganddi bellach ddwy ystafell aros
ar wahân ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, toiledau
cleifion, ystafell newid ac ardal caniwleiddio. Mae’r uned wedi’i
haddurno â murluniau o dirweddau Sir Gaerfyrddin ac mae’n cynnwys
goleuadau y gellir eu haddasu.

Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau:

“Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o fudd mawr i’n cleifion.
Bydd yn galluogi’r bwrdd iechyd i fynd i’r afael â’n hôl-groniad o
Covid-19 drwy gynyddu ein capasiti a lleihau amseroedd aros.”

Bydd y sganiwr CT dros dro, a oedd wedi’i leoli dros dro ym maes
parcio’r ysbyty, nawr yn symud i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn
Hwlffordd tra’n disgwyl am gael sganiwr newydd.

%d bloggers like this: