03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hwb i gynlluniau uchelgeisiol i godi 900 o dai cyngor newydd

MAE’R cynlluniau i adeiladu 900 o dai cyngor newydd yn Sir Gaerfyrddin wedi cymryd cam mawr arall ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai, wrth ei chyd-aelodau heddiw (dydd Llun 29 Gorffennaf 2019) bod cyllid eisoes ar gael i adeiladu traean o’r tai arfaethedig o fewn y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn golygu mai Sir Gaerfyrddin yw’r awdurdod lleol cyntaf a’r unig un yng Nghymru i fod â chynlluniau ar raddfa mor eang ar gyfer buddsoddi mewn tai cymdeithasol – y mwyaf ers y 1970au.

Pan fydd wedi’i gwblhau bydd y cynllun yn adfer stoc tai Cyngor Sir Caerfyrddin i’r lefelau a welwyd ddiwethaf yn y 1990au, ac mae’n ychwanegol at ymrwymiad y Cyngor i greu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y sir erbyn 2021.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol, ac yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Medi, ni fydd y Cyngor yn gwastraffu unrhyw amser wrth adeiladu’r tai cyngor newydd yn yr ardaloedd lle ceir yr angen mwyaf – mae llawer o’r rheiny yn ardaloedd gwledig sydd wedi dioddef prinder tai cymdeithasol ers blynyddoedd lawer.

Mae £53 miliwn eisoes yn ei le i adeiladu’r 300 o dai cyntaf.

Wrth groesawu’r cynllun dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, fod Gweinidog Llywodraeth Cymru, Julie James, wedi cymeradwyo’r awdurdod am ei arloesedd, ei uchelgais a’i allu’r i wireddu’r cynllun, sy’n rhoi Sir Gaerfyrddin ar flaen y gad o ran buddsoddi mewn tai cyngor yng Nghymru.

“Rydym yn falch iawn ein bod yn adeiladu tai i’n pobl, pobl sy’n aros am y tai hyn,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Evans, wrth gyflwyno’r adroddiad yn y Bwrdd Gweithredol: “Mae hyn yn adeiladu ar ein hymrwymiad yn ôl yn 2016 i greu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021. Roedd ein cynllun gwreiddiol yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd o sicrhau bod yna dai fforddiadwy yn y Sir – er enghraifft prynu tai trwy’r farchnad agored, gwneud defnydd unwaith eto o dai gwag, rhentu tai drwy’r cynllun Gosod Syml, defnyddio cytundebau Adran 106, a thrwy weithio gyda phartneriaid.

“O fewn y tair blynedd gyntaf, rydym wedi llwyddo i sicrhau bod 700 yn fwy o dai fforddiadwy yn y Sir, ac rwyf yn gwbl hyderus y byddwn yn cyrraedd ein targed erbyn 2021.

“Mae hyn yn ychwanegu 900 o dai cyngor newydd at y 1,000 gwreiddiol – nid oes unrhyw beth tebyg i hyn wedi’i gyflawni ers y 1970au. Rwyf yn sicrhau bod y tai sydd gennym yn y Sir yn cael eu hadfer i’r lefelau a oedd gennym yn y 1990au.

“Byddwn yn cefnogi blaenoriaethau adfywio’r sir hefyd – yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn canolbwyntio ar yr angen ac yn darparu tai addas.

“Mae’r rhaglen yn un gyffrous a heriol iawn ond, drwy ddatblygu’r cynllun hwn, bydd gennym dai newydd o’r safon uchaf yn yr ardaloedd mwyaf anghenus. Byddwn yn cyfrannu at iechyd a lles pobl, yn helpu’r economi leol, ac yn creu swyddi i bobl leol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am faterion gwledig: “Dyma un o’r cynlluniau pwysicaf a mwyaf cyffrous i ni eu dechrau fel gweinyddiaeth. Mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod tai ar gael i’r rheiny sydd â’r angen mwyaf ac i’r rheiny na allant symud i’r farchnad dai oherwydd y prisiau uchel.

“Mae’n rhyfeddod ein bod wedi ymrwymo i greu 1,000 o dai fforddiadwy a 900 o dai cyngor – nid oes yr un sir arall yng Nghymru yn gwneud yr hyn yr ydym ni yn ei wneud.

“Bydd llawer o’r tai fforddiadwy a’r tai cyngor hyn mewn ardaloedd gwledig, a fydd yn helpu i gadw teuluoedd mewn ardaloedd gwledig.”

%d bloggers like this: