GALL grwpiau cymunedol Merthyr Tudful wneud cais am hyd at £500,000 o gronfa a sefydlwyd i wella safon bywyd preswylwyr lleol.
Bydd Cynllun Grantiau Mawr Ffos-y-fran yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw (Gorffennaf 1).
Mae grantiau rhwng £5,000 a £500,000 ar gael ar gyfer projectau sy’n helpu creu ‘economi gref, gynaliadwy ac amrywiol’, sy’n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at greu Merthyr Tudful yn lle mwy ‘ bywiog, atyniadol, diogel a chynaliadwy’ i fyw.
Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau diweddaraf yw dydd Gwener Gorffennaf 29 am 4pm. Mae fwy o wybodaeth neu ffurflen gains ar Gael dry gysylltu gyda Chydlynydd Cronfa Buddiannau Ffos-y-fran ar 07563 398667 neu ffosyfran@merthyr.gov.uk
Dwedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros adfywio a Thai’r Cyng. Geraint Thomas:
“ Mae cyllid Ffos-y-fran yn parhau i gyfrannu’n fawr at safon bywyd preswylwyr a chymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.
“Rydym yn annog grwpiau sydd gyda chynlluniau ac sydd angen cymorth ariannol ddweud wrthym beth maent eisiau.”
Sefydlwyd Cynllun Grantiau Cymunedol Ffos-y-fran gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol ar y cyd gyda Merthyr (De Cymru) Cyf, sy’n cyfrannu £1 am bob tunnel o lo a werthir o gynllun adfer tir Ffos-y-fran. Mae mwy na £8m wedi ei ddyfarnu i ystod o grwpiau ac achosion da ers i’r safle agor yn 2007.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m