04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hyfforddi gyrwyr tacsi i sylwi ar arwyddion o gam-drin

MAE gyrwyr tacsi yn Sir Gaerfyrddin yn cael hyfforddiant i sylwi ar arwyddion o gam-drin er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin domestig.

Mae cannoedd o yrwyr tacsi eisoes wedi cwblhau hyfforddiant diogelu sy’n helpu i ddiogelu pobl agored i niwed. Mae cynorthwywyr teithwyr hefyd yn cael hyfforddiant, sy’n cynnwys tiwtorial fideo, fel rhan o’u gofynion trwyddedu.

Mae’r hyfforddiant yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin.

Nid oes gan bobl agored i niwed y gallu i ddeall beth sy’n digwydd. Gall hyn fod oherwydd cyffuriau/alcohol, iechyd meddwl, anabledd dysgu neu oed. Efallai fod ganddynt hefyd anawsterau cyfathrebu megis eu bod yn fyddar, yn ddall neu’n wynebu rhwystrau ieithyddol.

Mae’r hyfforddiant diogelu yn ymdrin â phlant ac oedolion sydd mewn perygl o brofi camdriniaeth, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a chamfanteisio ar blant. Mae hefyd yn cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth fodern, llinellau cyffuriau a gwrthderfysgaeth.

Ar ddiwedd yr hyfforddiant, dylai pobl wybod sut i sylwi ar arwyddion bod pobl agored i niwed mewn perygl o bosibl, sut i roi gwybod am eu pryderon ac â phwy y dylid cysylltu, gan ddiogelu eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu gyrwyr tacsi i sylwi ar broblemau posibl gan mai nhw yw llygaid a chlustiau’r gymuned a byddant yn gwybod pa awdurdodau i gysylltu â nhw os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb i ni i gyd. Gall unrhyw blentyn fod yn destun camfanteisio’n rhywiol ni waeth beth fo’i ddiwylliant, ethnigrwydd, crefydd, rhyw neu gefndir.”

%d bloggers like this: