03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hyfforddwr Academi Harddwch cael ei herlyn am Gamarwain Cwsmeriaid

PLEIDIODD Stephanie Alexis Thomas o Bontsarn, Merthyr Tudful yn euog i 8 trosedd yn ymwneud â Diogelu’r Cwsmer yn Llys Ynadon, a gorchmynnwyd hi i dalu £1595 mewn iawndal, dirwyon a chostau.

Roedd Stephanie Alexis Thomas yn gweithredu academi hyfforddi harddwch trwy Facebook o’r enw B Beautiful Training Academy. Cafodd y cyhuddiadau eu gwneud gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac roeddent yn ymwneud â chyrsiau hyfforddi annigonol, achrediadau ffug a chynnig cyrsiau hyfforddi LVL nad oedd wedi ei hawdurdodi nac yn gymwys i’w cynnig.

Clywodd y llys i’r achos ddechrau yn erbyn Miss Thomas wedi i’r Gwasanaeth Safonau Masnach dderbyn nifer fawr o gwynion. Derbyniwyd llawer o gwynion gan gwsmeriaid, rhai ohonynt yn unigolion a oedd yn agored i niwed am honiadau o achrediadau ffug a’r hyfforddiant annigonol a ddarparwyd, neu mewn rhai achosion, nad oedd yn cael eu darparu o gwbl.

Dywedodd Paul Lewis, Pennaeth Diogelu a Gwasanaethau Diogelwch,

“Bu’r Tîm Safonau Masnach yn archwilio am gyfnod hir i achos o fasnachu annheg. Manteisiodd Miss Thomas yn ariannol ar gamarwain cwsmeriaid, rhai ohonynt yn unigolion a oedd yn agored i niwed drwy fynd â’u harian, peidio rhoi iddynt yr hyn yr oeddent wedi talu amdano ac anwybyddu cwynion a cheisiadau am ad-daliadau. Hoffwn ddiolch i’r achwynwyr am ddod ymlaen ac rwy’n hynod falch i weld y bydd unrhyw arian a gymerwyd gan y diffynnydd yn cael ei ddychwelyd iddynt.”

Dywedodd Geraint Thomas, aelod Portffolio ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd:

“ Dros gyfnod o flwyddyn, llwyddodd y diffynnydd i gamarwain cwsmeriaid a’u twyllo i brynu’r hyn yr oeddent hwy’n eu meddwl oedd yn gyrsiau harddwch achrededig. Rwy’n cymeradwyo’n Tîm Safonau Masnach am ddangos nad yw marchnata annheg yn cael ei oddef yma ym Merthyr Tudful.”

Os oes gennych unrhyw gwynion fel defnyddiwr neu y credwch i chi ddioddef yn sgil masnachu annheg o ran nwyddau neu wasanaeth, cysylltwch â llinell gymorth y Ganolfan Cymorth ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu ewch i www.citizensadvice.org.uk.

%d bloggers like this: