04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Jeremy Miles yn cyhoeddi sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg

BYDD Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cyhoeddi heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, lansiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Cyhoeddodd ei fwriad i sefydlu Comisiwn o’r fath yn gynharach eleni.

Medd Gweinidog y Gymraeg:

Bydd y Comisiwn yn ein helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol ar gyfer cynnal yr iaith yn y cymunedau hynny a ystyrir yn draddodiadol fel ei chadarnleoedd. Dyw hyn ddim yn ymwneud â sefydlu corff newydd, mae’n grŵp o arbenigwyr mewn amryw o feysydd a fydd yn rhoi barn hollol onest i ni am sut mae’r economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar y Gymraeg ar lawr gwlad.

Mae cryfhau seiliau cymunedol ein hiaith yn wyneb newidiadau sosio-economaidd a chymdeithasol yn hanfodol er mwyn cynnal a chynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau hyn, ac felly yn ganolog i weledigaeth Cymraeg 2050Miliwn o siaradwyr. Er mwyn i’r Gymraeg ffynnu mae angen cymunedau cynaliadwy a chyfleoedd gwaith da yn yr ardaloedd lle mae’n cael ei siarad yn eang.

Mae sefydlu’r Comisiwn hefyd yn adlewyrchu’n hymrwymiad i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws pob elfen o’n gwaith ni yn Llywodraeth Cymru. Sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng nghyd-destun gwaith pob tîm, ym mhob adran ar draws y Llywodraeth, bob tro.

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyhoeddi adroddiad cyn pen dwy flynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn gwneud argymhellion polisi ac yn ystyried pa ymyraethau allai fod yn fuddiol o ran ymateb i gyd-destunau sosio-economaidd, cymdeithasol ac addysgol sydd yn effeithio ar gynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Gall hefyd gynnig argymhellion o ran polisi iaith mewn modd mwy uniongyrchol.

Yn ogystal, bydd y Comisiwn yn cynnig dadansoddiad o ganlyniadau cyfrifiad 2021 yn ein cymunedau Cymraeg. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddeall yn well beth yn union yw sefyllfa gyfredol ein hiaith. Bydd y gwaith hwn yn adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol lle y gall fod angen ymyrraeth polisi benodol er mwyn cefnogi a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Yn dilyn cyflwyno argymhellion i’r Llywodraeth ynghylch y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, bydd y Comisiwn wedyn yn ystyried dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd eraill o Gymru.

Bydd y Comisiwn yn cael ei gadeirio gan Dr. Simon Brooks. Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi enwau aelodau’r Comisiwn i gyd. Bydd yr aelodau yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod pan ystyrir y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Dyma’r aelodau:

Talat Chaudhri; Lowri Cunnington Wynn; Cynog Dafis; Meinir Ebbsworth; Delyth Evans; Dafydd Gruffydd; Myfanwy Jones; Shan Lloyd Williams; Cris Tomos a Rhys Tudur.

Fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd—felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Bydd rhaid i ni neud rhai newidiadau dewr a pheidio bod ofn mynd i’r afael â materion sydd weithiau’n anodd gyda’n gilydd.  Rwy’n siŵr y gallai peth o’r hyn y bydd y Comisiwn yn ei ddweud wrthym fod yn eithaf heriol – ond yn hollbwysig, dyna fydd yn ein helpu i lunio’r camau gweithredu mwyaf effeithiol”.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.”

Dywedodd Dr Simon Brooks a gyhoeddodd yr adroddiad Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru:

“Fel Comisiwn, byddwn ni’n edrych ar sefyllfa ieithyddol cymunedau Cymraeg eu hiaith heddiw, er mwyn gwneud argymhellion polisi a fydd yn helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y Comisiwn yn llunio adroddiad cynhwysfawr, a fydd yn pontio meysydd polisi sy’n cynnwys addysg a’r economi. Drwy edrych ar y rhain gyda’n gilydd, ry’n ni am helpu i ddatblygu atebion i’r heriau sy’n wynebu ein holl gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae datblygu cymunedau Cymraeg yn hanfodol i’w dyfodol fel iaith fyw.”

%d bloggers like this: