03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansiad strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth Mudiad Meithrin

DDYDD Mawrth 25 Mehefin am 2.00yp bydd Mudiad Meithrin yn cynnal dathliad i lansio Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd yn Llyfrgell Treganna, Caerdydd. Bydd sesiwn Arwyddo a Chân Cymraeg i Blant hefyd yn rhan o’r lansiad.

Mae’r Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn nodi sut mae Mudiad Meithrin am sicrhau bod ei waith yn parchu pawb, a bod croeso i bawb yn y Mudiad, boed nhw’n staff, gwirfoddolwyr, neu rieni a phlant sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Mae Mudiad Meithrin yn awyddus i ddatgan yn glir a chroyw ei fod yn estyn croeso i bob plentyn a’u teuluoedd i’r grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig i’r Mudiad, am ei fod yn gwerthfawrogi bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.  Mae gan bawb, waeth pa oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd, cred, statws priodasol neu rywioldeb, hawl i brofiadau cydradd o fewn Mudiad Meithrin.

Mae’r Mudiad hefyd yn mynnu chwarae teg i blant bach Cymru fel y gallant gaffael yr iaith Gymraeg, gael profiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn Gymraeg, a chael gofal ac addysg o safon i wella cyfleon bywyd

Cred y Mudiad fod ein profiadau a’n cefndiroedd amrywiol ni oll fel pobl a phlant Cymru yn cyfoethogi pob agwedd o’n gwasanaethau gan gynnwys

  • Cymraeg i Blant
  • Clwb Cwtsh
  • Cylchoedd Ti a Fi
  • Cylchoedd Meithrin
  • Prosiect y Cyfnod Sylfaen
  • Meithrinfeydd Cymru
  • Cynlluniau Cyfeirio
  • Y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol

Dywedodd Eleri Griffiths, Rheolwr Polisi Mudiad Meithrin:

“Mae Mudiad Meithrin yn gwerthfawrogi’r gwahaniaethau, yr anghenion a’r cyfraniadau a ddaw yn sgil ein defnyddwyr gwasanaethau a’n gweithlu amrywiol. Bydd pob aelod o staff a gwirfoddolwr, babis, plant a’u rhieni / gofalwyr yn cael eu trin yn deg ac â pharch. Rydym am barhau i weld plant o bob cymuned yng Nghymru yn dod i fwynhau canu, chwarae a dysgu trwy’r Gymraeg o’r crud i’r ysgol, a bwriad ein strategaeth yw i roi pwyslais arbennig ar ddeall a pharchu anghenion pawb yn ein cymunedau.”

%d bloggers like this: