04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansio Cronfa Argyfwng Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd i drigolion mewn angen

MAE cronfa argyfwng newydd wedi’i rhoi ar waith i gefnogi trigolion Caerdydd mewn argyfwng.

Mae Cronfa Argyfwng Dewisol Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd wedi cael £10,000, diolch i haelioni’r arweinydd busnes rhyngwladol o Gaerdydd, Alan Peterson, wrth i’r Cyngor geisio rhoi cymorth i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed ar draws y ddinas sydd mewn angen ac yn profi caledi.

Y fenter yw ymateb diweddaraf y Cyngor i’r effaith y mae’r pandemig yn parhau i’w chael ar gymunedau ar draws y ddinas.

Ar ddechrau’r argyfwng, sefydlodd yr awdurdod fenter wirfoddoli, Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd, i harneisio ar ysbryd cymunedol ac awydd cryf trigolion i helpu ei gilydd mewn cyfnod o angen. Dilynwyd hyn yn gyflym trwy greu Apêl Bwyd Caerdydd gyda busnesau ac unigolion lleol, gan gynnwys Mr Peterson, yn rhoi mwy na £100,000 a ddefnyddiwyd i brynu’r parseli bwyd brys a’r nwyddau hanfodol y mae’r Cyngor wedi’u rhoi i bobl sydd wedi ei chael yn anodd cael nwyddau drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Roedd yr haelioni aruthrol a ddangoswyd gan fusnesau ac unigolion yn y ddinas ar ddechrau’r argyfwng y llynedd, o ran cyfraniadau ariannol i’r apêl bwyd a phobl yn rhoi o’u hamser yn anhunanol i wirfoddoli i gefnogi pobl eraill yn eu cyfnod o angen, yn rhagorol. Yn wir, mae pobl wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd dros Gaerdydd.

“Defnyddiwyd yr arian hwn, yn ogystal â’r nwyddau a roddwyd gan fusnesau a Banc Bwyd Caerdydd, i brynu bwyd brys a pharseli nwyddau hanfodol i bron 8,500 o bobl sydd wedi ei chael hi’n anodd cael darpariaethau trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

“Yn anffodus, mae’r argyfwng a’r anawsterau y mae wedi’u creu yn dal i fod gyda ni ac mae llawer o gartrefi incwm isel yn y ddinas yn parhau i gael trafferthion, felly mae’r gronfa argyfwng hon wedi’i sefydlu i gefnogi’r rhai sydd mewn argyfwng.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r teulu Peterson am eu cyfraniad hael unwaith eto, sydd wedi helpu i roi’r gronfa ar waith. Gobeithiwn y bydd pobl eraill sydd am helpu trigolion mewn trafferthion yn cynnig cymorth hefyd, o rai o fusnesau’r ddinas i unigolion yn y gymuned sydd am gefnogi eu cymdogion.

“Diolch i bawb sy’n gallu helpu. Bydd eich cymorth yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig i bobl mewn angen yng Nghaerdydd. Diolch yn fawr iawn.”

Dywedodd Alan Peterson:

“Mae pob wythnos yn cyflwyno mwy o anawsterau i ni i gyd, ond i’r rhai mwyaf anghenus ac agored i niwed, bydd pob dydd yn teimlo’n hynod o lwm ac felly mae cymorth amserol a hygyrch bellach yn hanfodol. Gobeithio y bydd pobl eraill yn ymuno â mi i adeiladu Cronfa Argyfwng Caerdydd yn gyflym.”

I roi rhodd i Gronfa Argyfwng Dewisol Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd, ewch ihttps://www.volunteercardiff.co.uk/cronfa-argyfwng/?lang=cy

Bydd y gronfa ar gael i unigolion a theuluoedd sy’n profi caledi difrifol, pan na fydd unrhyw opsiwn arall o ran cymorth ar gael.  Mae wedi ei chreu i helpu gyda threuliau fel talu am hanfodion fel nwy a thrydan pan na all cartref wneud felly, am atgyweiriadau hanfodol i bopty neu beiriant golchi, ar gyfer dodrefn hanfodol neu offer i fynd i’r afael ag amddifadedd digidol.

Caiff y rhai sy’n gwneud cais am y gronfa eu cefnogi gan Dîm Cyngor Ariannol y Cyngor, a fydd yn trafod amgylchiadau’r cartref ac ystyried ffyrdd o wneud y mwyaf o’u hincwm drwy gael gafael ar grantiau, gostyngiadau a budd-daliadau, helpu i ddelio ag unrhyw ddyledion sydd ganddynt, a rhoi arweiniad i wneud cais am y gronfa, os nad oes unrhyw opsiwn arall ar gael.

Caiff ceisiadau eu hasesu gan banel annibynnol o swyddogion y Cyngor ac os byddant yn llwyddiannus, caiff unrhyw bryniannau neu daliadau angenrheidiol eu gwneud ar ran yr ymgeisydd.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 16 oed a bod yn byw yng Nghaerdydd. Mae meini prawf cymhwysedd eraill yn berthnasol gan gynnwys y gofyniad i fod yn derbyn budd-daliadau penodol, prawf o incwm isel neu fynediad i gynilion dan drothwy penodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:

“Rwy’n annog trigolion mewn angen i gysylltu â’n Tîm Cyngor Ariannol i weld sut y gall helpu. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n ddiflino’n ddiweddar i gefnogi pobl gyda’u pryderon ariannol ar yr adeg anodd iawn hon. Gall ein hymgynghorwyr ariannol arbenigol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefyllfaoedd pobl, mynd at wraidd eu problemau ariannol ac edrych ar bob ateb i helpu.

“Cysylltwch â ni, mae help ar gael.”

Ffoniwch y Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071, e-bostiwch ef ynhybcynghori@caerdydd.gov.ukneu ewch iwww.cyngorariannolcaerdydd.co.ukam fwy o wybodaeth a chymorth ar faterion ariannol.

%d bloggers like this: