03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

PROSIECT diweddaraf Siarter Iaith Ceredigion oedd darparu gweithdy ar sut i greu podlediad i ysgolion Ceredigion a hynny dan ofal Marc Griffiths o Stiwdiobox.

Cymerodd 27 o ysgolion ran a chrëwyd podlediadau ar y thema ‘Ein Milltir Sgwâr’. Gallwch ddod o hyd i’r holl bodlediadau wrth chwilio am ‘Clonc Cynefin’ ar blatfform Y pod ac Apple podcast.

Mae pob podlediad yn cyflwyno gwybodaeth am ardaloedd amrywiol Ceredigion. Gellir glywed hanes Argae Nantymoch gan Ysgol Syr John Rhys, hanes gêm Y Cnapan a defaid Llanwenog gyda Ysgol Dyffryn Cledlyn. Mae digon o hanes ac antur yn eich aros wrth wrando ar y podlediadau.

Rhoddodd y prosiect gyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau llafar Cymraeg a chynyddu a gwella medrau TGCh a chelfyddydol.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd Lily Macy a Malen Davies o Ysgol y Mynach: “Ni di mwyhau mas draw yn creu y podlediad, cawsom y cyfle i wneud pob darn o’r podlediad, yr ymchwilo, sgriptio, recordio a hyd yn oed golygu yr holl bodlediad gyda Marci G – roedd e’n profiad gwych!”

Dywedodd Rhiannon Carruthers, Athrawes Ysgol y Mynach: “Mae’r holl brofiad wedi bod yn wych i bawb, ni wedi dysgu cymaint am yr ardal a nawr mae cyfle i ni addysgu chi hefyd am ardal a hanes Pontarfynach. Diolch enfawr am y cyfle.”

Lansiwyd y sianel podlediad yn ystod cyfarfod Rhwydwaith Cydlynwyr Iaith Ceredigion ar 1 Chwefror 2022 gyda’r Cynghorydd Catrin Miles, Marc Griffiths o Stiwdiobox ac Hanna Hopwood o BBC Radio Cymru yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Am brosiect gwych i ddisgyblion Ceredigion. Rwy’n siŵr bod y prosiect wedi rhoi cyfle i’r disgyblion i ymchwilio ac i ddod i adnabod eu cynefin yn ogystal â rhoi’r cyfle arbennig i ddysgu am hanes a chwedlau lleol. Edrychaf ymlaen at glywed y podlediadau.”

%d bloggers like this: