04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansio ymgyrch Dewis Lleol ledled Caerffili

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymuno â nifer o fusnesau lleol i ddod â’r profiad siopa gorau i stepen eich drws.

Wedi’i ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal trwy 2022, a’r nod yw annog trigolion i #DewisLleol ac archwilio canol trefi allweddol (Bargod, Caerffili, Coed Duon, Rhisga, Trecelyn, Ystrad Mynach) a’r cyffiniau i ddiwallu eich holl anghenion siopa cyffredinol.

Os byddwch chi’n ‘Dewis Lleol’ eleni, byddwch chi’n darganfod dewis gwych o fanwerthwyr annibynnol unigryw ac enwau mawr yn y stryd fawr leol a’r cyffiniau.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Os ydych chi’n awyddus i archwilio’r hyn sydd gan y Fwrdeistref Sirol i’w gynnig, ond eisiau gwneud hynny o gysur eich cartref, mae gan lawer o siopau wefannau ar-lein er mwyn cynnwys pawb. I’r rhai sy’n teimlo eu bod nhw’n fwy agored i niwed, rydyn ni eisiau cynnig cyfle i siopa’n lleol ar-lein; i’r rhai sy’n ysu am gael mynd allan, rydyn ni eisiau cynnig cynigion bendigedig ar lawr gwlad.

Meddai’r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter:

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd, fel trigolion, yn cefnogi’r stryd fawr leol. Mae’r Fwrdeistref Sirol yn llawn siopau annibynnol sy’n cynnig amrywiaeth eang o berlau cudd a chynhyrchion lleol. Mae’r busnesau hyn wrth wraidd y stryd fawr, a dylem ni eu cefnogi nhw gymaint ag y gallwn ni.”

%d bloggers like this: