03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansio ymgyrch i annog pobl mewn cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gael eu brechu

MAE cynrychiolwyr cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi dod ynghyd i lansio ymgyrch leol i ddileu ofn a diffyg ymddiriedaeth, ac annog pobl i gael brechlyn Covid-19.

Nod ymgyrch “Dwed Ragor” yw gwneud hyn drwy gyfeirio pobl at wybodaeth onest a chywir gan ffynonellau lleol dibynadwy, gan gynnwys ymarferwyr meddygol, arweinwyr ffydd a chymuned, yn ogystal â phobl gyffredin, ffrindiau a chymdogion, sy’n byw a gweithio yn y gymuned, er mwyn i bobl o gymunedau BAME allu gwneud penderfyniadau gwirioneddol ddoeth.

Yn ôl Henry Gilbert, cyn-Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, a Chadeirydd yr ymgyrch:

“Dywedir fod nifer y bobl sy’n cymryd brechlyn Covid-19 yn sylweddol is ymysg cymunedau Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n peri gofid, oherwydd mae tystiolaeth yn dangos fod aelodau’r cymunedau hyn yn colli’u bywydau ar raddfa anghymesur o ganlyniad i’r pandemig hwn.

“Mae sawl rheswm pam y gallai pobl fod yn ofnus o gymryd y brechiad, gan gynnwys rhai o’r straeon ffug (ffêc niws) sy’n cylchdroi ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â gofidiau am ddiogelwch a chynhwysion.

“Fe wnaethon ni lansio ymgyrch “Dwed Ragor” i gywiro hyn ac i roi gwybodaeth i bobl sydd ei angen arnyn nhw i deimlo’n hyderus fod y brechlynnau’n ddiogel, yn cynnwys cynhwysion sy’n gydnaws â’u daliadau crefyddol a phersonol, ac a fydd yn helpu i’w gwarchod nhw a’r bobl sy’n annwyl iddyn nhw. Bydd ein hymgyrch yn cael ei arwain gan ffynonellau dibynadwy, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol lleol a phobl sy’n cael eu parchu a’u hadnabod gan rai yn ein cymunedau lleol.

“Os oes gofidiau gyda chi am y brechiadau, ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda, www.tellmemore.wales i gael atebion i’ch cwestiynau, lawrlwytho gwybodaeth mewn sawl iaith, a chefnogi’r ymgyrch drwy anfon eich fideos neu dystiolaeth chi.”

I helpu i addysgu’r ymgyrch, aeth y grŵp ati i wneud arolwg i ddarganfod beth oedd y pryderon mwyaf cyffredin ynglŷn â’r brechlyn ymysg pobl o gymunedau BAME lleol, a beth yw’r ffynonellau gwybodaeth maen nhw’n ymddiried fwyaf ynddyn nhw.

Mae rhywfaint o’r wybodaeth ffug sy’n mynd o gwmpas ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys honiadau fod y brechlynnau’n wrthwynebus i Islam, a’u bod yn cynnwys cig mochyn a / neu ddeunydd o ffoetysau, neu eu bod yn gallu arwain at anffrwythlondeb, ond does yr un o’r honiadau hyn yn wir.

I gyd-fynd â lansio ymgyrch ‘Dwed Ragor’, bu’r Imbiwlans, clinig imiwneiddio ar olwynion a redir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ym Mosg Abertawe heddiw. Gwahoddwyd pobl o’r gymuned Fwslemaidd ac eraill drwy apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid Rhydychen-AstraZeneca. Roedd lleoliad y mosg ynghanol y ddinas yn un rhagorol, a daeth rhyw 15 o bobl i’r sesiwn y bore ’ma.

Mae rhaglen frechu Covid yn gyrru ymlaen ar fyrder, a darparwyd dros gan mil o frechiadau cyntaf ac ail yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn barod, ond cafwyd adroddiadau fod llai o bobl o blith cymunedau BAME yn derbyn y driniaeth.

Canfu astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod: “yr anghydraddoldeb mwyaf o ran cael y brechlyn yn digwydd ymysg oedolion o grwpiau ethnig o oedran 80+. Niferoedd ar y cyd o blith grwpiau ethnig Du, Asiaidd, Cymysg ac Eraill yn y garfan oedran hon oedd 71.5%, o’i gymharu ag 85.6% yn y grŵp ethnig Gwyn, bwlch o 14.1%.”  Roedd y bwlch yn dechrau lleihau wrth gymharu â grwpiau oedran iau, ond roedden nhw’n dal i fod yn arwyddocaol.

Dywedodd Dr Anjula Mehta, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Cynradd a Chymunedol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe:

“Fel meddyg BAME benywaidd, rwy’n gefnogwr cryf o frechlyn COVID-19. Mae’r brechlynnau hyn wedi cael eu profi’n drylwyr, ac maen nhw’n ffordd ddiogel ac effeithiol o helpu i drechu COVID-19. Dwi wedi cael fy un i, a bydd fy nheulu’n ei gael pan fyddan nhw’n cael cynnig. Dwi’n gwybod fod rhai gofidiau wedi bod ynghylch y brechlyn hwn ymysg y gymuned BAME, ond rwy’n eich annog chi i ddarllen yr wybodaeth, nodi’r ffeithiau a mynd i gael eich brechiad pan fyddwch chi’n cael cynnig.

“Mae cywirdeb brechlynnau COVID-19 yn uchel, am nad ydyn nhw’n cynnwys dim byd a allai wrthdaro â chredoau crefyddol neu bersonol, fel deunydd o anifeiliaid neu ffoetysau. Mae modd rhoi’r brechlyn i bobl yn ystod cyfnod Ramadan, am nad yw brechiad rhyng-gyhyrol i bwrpas anfaethol yn dirymu’r ympryd. Cefnogir hyn gan lawer o ysgolheigion Islamaidd. Fel meddyg BAME benywaidd, dwi wedi cael fy mrechiad COVID-19; rwy’n erfyn arnoch chi i beidio ag oedi cyn cael eich un chi pan gynigir ef i chi, er mwyn eich gwarchod chi eich hunan, eich teulu a’r cyhoedd yn gyffredinol.”

cynrychiolwyr cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi dod ynghyd i lansio ymgyrch leol i ddileu ofn a diffyg ymddiriedaeth, ac annog pobl i gael brechlyn Covid-19.

%d bloggers like this: