03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lefel Rhybudd 0 – Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr Ceredigion

Wrth i’r rhan fwyaf o’r cyfyngiadau cyfreithiol gael eu llacio, mae’n rhaid i bob un ohonom barhau i wneud ein rhan i atal y feirws rhag lledaenu. Mae’r perygl o drosglwyddo’r feirws yn parhau; nid yw lefel rhybudd sero yn golygu diwedd y mesurau.

Hyd yn oed os ydych chi wedi cael dau ddôs o’r brechlyn, plîs cofiwch y canlynol:

· Golchwch eich dwylo a gwisgwch fasg wyneb, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau neu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae gwneud hynny’n ofyniad cyfreithiol.

· Cadwch eich pellter. Er bod y rheol 2 fetr wedi dod i ben, cofiwch fod gan fusnesau hawl i gynnal cyfyngiadau tebyg er mwyn helpu i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel.

· Mae cwrdd yn yr awyr agored yn fwy diogel na chwrdd dan do.

· Gadewch awyr iach i mewn i fannau dan do.

· Trefnwch brawf a hunanynyswch, hyd yn oed os mai dim ond symptomau ysgafn sydd gennych.

· Gweithiwch gartref pryd bynnag y bo modd.

Yn ôl y gyfraith, bydd yn ofynnol o hyd i fusnesau gynnal asesiad risg sy’n benodol i COVID-19 a chadw cofnod ohono a chymryd mesurau rhesymol i gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel. Gellir gweld canllawiau pellach a thempled yma https://llyw.cymru/asesiad-risg-covid-19-eiddo-cyhoeddus-gweithleoedd . Bydd ein Tîm Diogelu’r Cyhoedd yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth safleoedd â rheoliadau cyfyngiadau’r coronafeirws, ac efallai y byddant yn gofyn am gopi o asesiad risg COVID-19 wedi’i gwblhau ar gyfer eich safle. Darperir cyngor lle gwelir bod busnesau yn mynd yn groes i’r gofynion, a gellir cymryd camau gorfodi pan fydd angen gwneud hynny.

Wrth i wyliau’r haf barhau, mae nifer uchel o ymwelwyr yn mwynhau canol ein trefi. Mae gan y parthau diogel ran bwysig i’w chwarae o hyd wrth helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n barhaus a bydd digon o rybudd yn cael ei roi ar gyfer unrhyw newid er mwyn caniatáu i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr addasu fel y bo’n briodol.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dangos bod 64% o’r boblogaeth yng Ngheredigion bellach wedi cael dos llawn y brechlyn. Mae dal modd trefnu apwyntiad i gael dos cyntaf neu ail ddôs, neu gallwch alw heibio unrhyw Ganolfan Frechu Torfol i gael eich brechiad cyntaf neu’r ail. Mae mwy o wybodaeth am Raglen Frechu COVID-19 ar gael ar https://hduhb.nhs.wales/

Mae cymryd cyfrifoldeb yn golygu y gallwn ailgydio yn y pethau rydym wedi’u colli fwyaf. Mae gan bob un ohonom reswm i barhau i gadw Ceredigion yn ddiogel.

%d bloggers like this: