04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llanilar yn llwyddo i ennill y Cam Aur gyda’r Siarter iaith

AR ddiwedd blwyddyn heriol i bawb, mae Ysgol Gynradd Llanilar yn dathlu llwyddo rhoi’r iaith ar waith drwy ennill Cam Aur y Siarter Iaith.

Ysgol Gynradd Llanilar yw’r ysgol gyntaf yng Ngheredigion i gyrraedd y safon hwn. Gwelwyd gwaith arloesol yn datblygu’r Gymraeg tu hwnt i ffiniau’r Ysgol gan weld tystiolaeth o’r hyrwyddo ac annog y Gymraeg yn y gymuned ehangach.

Arweinir y gwaith gan y Cewri Cymraeg sydd yn cymryd eu dyletswyddau o ddifri. Daw arweiniad cadarn wrth Mrs Rhiannon Salisbury, cydlynydd y siarter, a ddywedodd, “Rydym wrth ein boddau! Mae’n binacl ein blwyddyn ac yn ddiweddglo hyfryd i’r Cewri wrth iddynt symud ymlaen i’r Uwchradd.”

Mae’r Siarter iaith ar waith yn holl Ysgolion Cynradd y Sir ac yn datblygu yn y Sector Uwchradd. Mae pawb ar y siwrne ac mae yna waith arbennig yn digwydd ar hyd a lled y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, “Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Llanilar am eu llwyddiant. Nid ar chwarae bach mae derbyn Cam Aur y Siarter Iaith, felly da iawn chi wir. Pwy fydd y nesaf i ymuno gyda chriw Llanilar tybed?”

 

Llongyfarchiadau mawr i chi gyd yn Ysgol Gynradd Llanilar.

%d bloggers like this: