04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lleihau’r cyfnod hunanynysu coronafeirws

MAE’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi fydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif.

Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.

Gwneir y newidiadau hyn ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a bydd Cymru’n ymuno â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi rhoi’r newid hwn ar waith.

Daw’r newid hwn i rym o 28 Ionawr, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.

Bydd cyfnod hunanynysu byrrach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau drwy leihau’r pwysau ar y gweithlu o ganlyniad i absenoldebau staff cysylltiedig â COVID.

Bydd y cymorth ariannol drwy’r Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 i gydnabod y cyfnod hunanynysu byrrach. Bydd pobl sydd angen cymorth gyda chasglu hanfodion fel nwyddau o’r siop a meddyginiaeth o’r fferyllfa yn gallu cael cymorth drwy eu hawdurdod lleol a sefydliadau gwirfoddol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Hunanynysu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y feirws rhag lledaenu a tharfu ar ei drosglwyddiad. Ond gall hunanynysu am gyfnodau hir gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl a gall fod yn niweidiol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach.

“Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn ofalus, rydym yn credu y bydd profi ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech, ynghyd â hunanynysu am bum diwrnod llawn yn cael yr un effaith amddiffynnol â chyfnod hunanynysu o 10 diwrnod.

“Ond mae’n bwysig iawn bod pawb yn hunanynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd fel y cynghorir i sicrhau eu bod yn diogelu eraill rhag y risg o haint.

“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol yng Nghymru drwy gydol y pandemig ac fe hoffem ddiolch i bawb am weithio gyda ni i ddiogelu Cymru.

“Mae’r pigiadau atgyfnerthu wedi lleihau’r tebygolrwydd o achosion difrifol o’r feirws a’r angen i dderbyn unigolion i’r ysbyty felly rwy’n annog unrhyw un sydd heb gael eu brechu i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.”

Os yw rhywun yn profi’n bositif am COVID-19, neu os ydynt yn hunanynysu fel achos positif ar hyn o bryd, rhaid iddynt hunanynysu am bum diwrnod llawn a chymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod pump a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach ar ddiwrnod chwech.

Os yw’r ddau ganlyniad yn negatif, mae’n debygol nad ydynt yn heintus ac fe gânt roi’r gorau i hunanynysu.

Ond bydd rhaid i unrhyw un sy’n profi’n bositif ar ddiwrnod pump neu ar ddiwrnod chwech barhau i hunanynysu hyd nes y byddant wedi cael dau brawf negatif o fewn 24 awr, neu hunanynysu tan ddiwrnod 10, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Mae’r newid hwn yn adlewyrchu’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd canllawiau ar hunanynysu ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn meysydd mwy sensitif fel iechyd a gofal yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

%d bloggers like this: