04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lleoliadau i Athrawon Newydd Gymhwyso i barhau tan yr haf

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn estyn ei rhaglen lleoliadau ysgol i athrawon newydd gymhwyso tan ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Mae’r cynllun, sy’n cynnig cyflogaeth am dâl mewn ysgolion i athrawon newydd gymhwyso, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o gyllid i awdurdodau lleol fel y gall ysgolion ddarparu lleoliadau i athrawon newydd gymhwyso. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4.2m arall er mwyn i’r cynllun allu parhau tan fis Gorffennaf.

Mae’r rhan fwyaf o athrawon newydd gymhwyso wedi gorfod ymgymryd ag o leiaf rhan o’u lleoliadau addysgu ar-lein oherwydd y pandemig. Mae’r rhaglen yn helpu athrawon newydd gymhwyso i gael mwy o brofiad a hyder drwy roi rhagor o brofiad iddynt yn yr ystafell ddosbarth a’u galluogi nhw i gwblhau eu cyfnod sefydlu cyn iddynt fynd i addysgu.

Mae mwy na 400 o athrawon newydd gymhwyso wedi ymgymryd â lleoliadau mewn ysgolion ledled Cymru drwy’r cynllun, gyda 60 o’r rheini eisoes wedi llwyddo i gael swyddi parhaol. Mae’r cyllid ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yn rhan o raglen Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru, i gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr mewn ymateb i COVID-19.

Yn ogystal â helpu athrawon newydd gymhwyso gyda’u gyrfaoedd, mae’r cynllun hefyd wedi ychwanegu at y capasiti addysgu mewn ysgolion yn ystod y pandemig.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae’r pandemig wedi bod yn her wirioneddol i’n system addysg. Mae hefyd wedi effeithio ar athrawon newydd gymhwyso, sydd heb gael y cyfle i dreulio cymaint o amser â’r arfer yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r cynllun wedi rhoi cyfle i athrawon newydd gymhwyso gael profiad yn yr ystafell ddosbarth gan ychwanegu at gapasiti ysgolion a sicrhau bod y dysgu yn parhau.

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan ysgolion yn dweud bod yr athrawon newydd gymhwyso yn eu helpu gyda phwysau staffio parhaus. Mae’n golygu bod ganddynt fwy o staff medrus sy’n gallu cymryd dosbarthiadau ac sy’n adnabod y disgyblion ac yn deall ethos yr ysgol.

Bydd estyn y cynllun tan ddiwedd y flwyddyn yn helpu athrawon newydd gymhwyso i ddatblygu eu gyrfaoedd, yn helpu ysgolion ac yn cefnogi dysgwyr.”

%d bloggers like this: