04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lleoliadau’r blynyddoedd cynnar yn barod i helpu roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith

MAE Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi canmol gwaith lleoliadau’r blynyddoedd cynnar wrth iddynt baratoi i helpu i roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith.

Mewn ymweliad â meithrinfa ddydd Llandogo Early Years yn Sir Fynwy, gwnaeth y Gweinidog gyfarfod ag ymarferwyr y blynyddoedd cynnar sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yn benodol.

Cyhoeddwyd y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn gynharach eleni. Cafodd ei ddatblygu er mwyn helpu i roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith ym mis Medi, a sicrhau bod y plant hynny sy’n cael addysg mewn lleoliadau nas cynhelir yn cael y dechrau gorau posibl ar eu taith ddysgu.

Mae ymarferwyr ac arweinwyr ym maes y blynyddoedd cynnar wedi cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o gyd-awduro’r cwricwlwm, gan wneud defnydd o’u profiad o’r sector yn ogystal â safbwyntiau arbenigwyr ym maes datblygiad plant ac addysg gynnar.

Darparwyd hyfforddiant i’r ymarferwyr, ac mae adnoddau a fydd yn cefnogi’r gwaith o roi’r cwricwlwm ar waith wrthi’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Ymhlith y modiwlau a gynigir y mae dysgu yn yr awyr agored, chwarae a dysgu seiliedig ar chwarae, a datblygiad plant.

Cyhoeddir rhagor o adnoddau ym mis Mehefin.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae wedi bod yn fraint cael ymweld â meithrinfa Llandogo Early Years a gweld y gwaith rhagorol y maen nhw’n ei wneud er mwyn cefnogi ein dysgwyr ieuengaf.

Mae llawer o blant yn dechrau ar eu taith ddysgu mewn lleoliad nas cynhelir. Mae’r gallu i fanteisio ar ddarpariaeth addysg gynnar o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad addysgol a chymdeithasol plant. Bydd ein cwricwlwm newydd i leoliadau a ariennir nas cynhelir yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei chynnig yn gyson ledled Cymru.

Wrth inni symud tuag at roi’r cwricwlwm newydd i Gymru ar waith i ddysgwyr rhwng 3 a 16 oed, bydd gan leoliadau’r blynyddoedd cynnar rôl allweddol i’w chwarae. Dyna pam roedd yn bwysig cynnwys y bobl hynny sy’n gweithio mewn lleoliadau nas cynhelir wrth ddatblygu cwricwlwm sy’n benodol iddyn nhw. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r lleoliadau meithrin hynny sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm hwn, ac sy’n parhau i weithio gyda ni wrth inni ddatblygu trefniadau asesu ar gyfer y sector.

Mae’r sector gofal plant wedi cyfrannu’n sylweddol at ein hymateb i’r pandemig. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i bawb sy’n gweithio yn y sector sydd wedi parhau i gefnogi ein dysgwyr ieuengaf o dan amgylchiadau a all fod yn anodd ar adegau, gan sichau bod amgylcheddau dysgu a gofal diogel ar gael iddynt.”

%d bloggers like this: