CYHOEDDWYD ‘roedd llifogydd difrifol yn Sgiwen yn ddigwyddiad o bwys ar ôl i o leiaf wyth stryd, gan gynnwys Parc Goshen, orlifo, a bu’n rhaid gwagio sawl eiddo ar frys.
Cafwyd hyd i lety dros nos Iau ar gyfer pawb wnaeth orfod symud o’u tai, rhyw 80 o drigolion yn ôl yr amcangyfrif.
Ni chofnodwyd unrhyw anafiadau, a gofynnwn i bobl barhau i osgoi’r ardal,
Mae achos y llifogydd yn parhau i gael ei archwilio a bydd lefel y dŵr yn parhau i gael ei fonitro.
Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, o Heddlu De Cymru:
“Mae’r gwasanaethau Brys, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid argyfwng sifil posib wedi byd yn cydweithio i ddiogelu preswylwyr lleol ac atal mwy o niwed.
“Sefydlwyd grŵp cydlynu strategol aml-asiantaethol (SCG) i gydlynu’r ymateb argyfwng i’r digwyddiad hwn a helpu i gefnogi’r bobl a effeithiwyd gan y llifogydd.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Swyddog Tân Roger Thomas, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Cyn dim byd arall, rydyn ni’n meddwl am bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau dydd Iau.
“Roedd y digwyddiad hwn yn galw am ymateb mawr aml-asiantaethol i’r hyn oedd yn ddigwyddiad deinamig oedd yn symud yn gyflym, a gwnaed ymdrechion arwrol gan bawb oedd yn rhan o’r ymateb i sicrhau diogelwch a llesiant y gymuned a effeithiwyd.
More Stories
Cyngor Mynwy symud ymlaen i wella canol tref Cas-gwent
‘Muriau gwyrdd’ wedi’u gosod ar ddau adeilad y prifddinas
Cyfle olaf i ddweud eich dweud ar Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr