04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llinell gyngor am ddim i helpu pobl â’u harian

MAE pobl sydd wedi ffonio llinell gyngor am ddim a gynhelir gan y cyngor a sefydliadau partner yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i wirio a ydynt yn colli’r cyfle i gael budd-daliadau’n dweud ei bod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w harian.

Lansiwyd y rhif 0800 112 4763 yn gynharach eleni i gynorthwyo pobl dros 66 oed sydd efallai wedi colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn.

Nid yw dau o bob pum person sy’n gymwys ar gyfer y budd-dal yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo ac maent yn colli’r cyfle i gael £39 yr wythnos ar gyfartaledd, yn ôl ffigurau’r llywodraeth.

Ond mae galwyr hefyd wedi darganfod bod aelodau’r teulu sy’n byw gyda nhw wedi colli’u cyfle i gael budd-daliadau eraill hefyd.

Meddai un galwr, “Ffoniais i dim ond i weld a oeddwn yn gymwys, ond doeddwn i ddim, ond roedd fy mab sy’n byw gyda fi’n colli’r cyfle i gael £37.50 yr wythnos.”

Ychwanegodd un arall, “Mae fy merch, yr wyf yn byw gyda hi, wedi derbyn gostyngiad o 25% ar ei threth y cyngor, felly mae’n werth ffonio’r llinell gymorth hon gan nad oeddem yn gwybod dim am hyn.”

Dengys ffigurau’r Llywodraeth fod pob £1 ychwanegol y mae pobl yn ei derbyn yn werth £4 i’r economi leol felly drwy hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, maent yn helpu i gefnogi swyddi a busnesau lleol.

Mae hawl i Gredyd Pensiwn hefyd yn cynnig cilfanteision i hawlwyr, fel help gyda chostau teithio i’r ysbyty a help gyda ffïoedd y GIG, mynediad at drwydded deledu am ddim os ydych dros 75 oed, taliadau cymorth dewisol i helpu i brynu eitemau untro, a chânt eu trosglwyddo’n awtomatig drwy’r prawf modd ariannol ar gyfer budd-daliadau tai a gostyngiad treth y cyngor.

Ychwanegodd un pensiynwr a ffoniodd, “Mae gen i bellach arian yn fy mhoced, felly does dim rhai i fi wylio pob ceiniog mwyach. Gyda’r ôl-ddyled rwy’n mynd i fynd â’m teulu mas am bryd o fwyd unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi’u codi.”

Mae’r llinell gyngor ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac mae’n rhad ac am ddim.

Atebir y llinell gan staff sy’n gweithio yng ngwasanaeth Hawliau Lles yr awdurdodau lleol, Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin a Chyngor ar Bopeth. Maent yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar ac wedi’u hyfforddi i roi cyngor a chefnogaeth ynghylch yr hawl i fudd-daliadau.

%d bloggers like this: