03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llongyfarch llwyddiant Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022

MAE Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi longyfarch holl athletwyr, hyfforddwyr a staff Tîm Cymru ar eu perfformiad rhagorol yng Ngemau’r Gymanwlad eleni yn Birmingham.

Mewn datganiad dywedodd:

“Cyn i’r Gemau hyd yn oed ddechrau roedd llawer i ymfalchïo ynddo o ran y tîm hwn, gan fod y tîm yn dangos cydbwysedd rhwng y rhywiau ac yn un o’r rhai mwyaf amrywiol y mae ein gwlad wedi’i gynhyrchu erioed. Mae ein hathletwyr anhygoel wedi denu llawer o gefnogwyr ledled y byd yn sgil eu sbortsmonaeth a’r ysbryd positif y gwnaethant ei ddangos wrth fynd ati i gystadlu. Maent wedi dangos eu bod ymhlith y gorau o’r hyn yr ydym fel gwlad. Roedd hi’n anrhydedd llwyr i mi’n bersonol fwynhau rhai o’r perfformiadau hyn fy hun dros y pythefnos diwethaf. Hoffwn hefyd longyfarch Birmingham ar fod yn ddinas wych a chroesawgar ar gyfer cynnal y Gemau.

Hoffwn dalu teyrnged arbennig i gapten y tîm, Anwen Butten, sydd wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o gystadlu dros Gymru mewn pencampwriaethau mawr yn dilyn y Gemau hyn. Mae hi wedi ysbrydoli aelodau’r tîm i berfformio hyd eithaf eu gallu ac wedi arwain drwy esiampl. Mae ei chyfraniad i’w champ, ac i Dîm Cymru dros chwech o Gemau’r Gymanwlad yn olynol, yn anfesuradwy.

Mae perfformiadau cryf y Tîm wedi ein gweld yn gorffen yn wythfed yn gyffredinol ar y tabl medalau, gyda chyfanswm o 28 medal. Mae’r cyflawniad gwych hwn yn atgyfnerthu ein rhinweddau fel gwlad fach sy’n cystadlu’n dda ar y llwyfan chwaraeon byd-eang.

Edrychaf ymlaen yn fawr at y digwyddiad Dathliad Dychwelyd ddydd Gwener 12 Awst yn y Senedd i ddathlu eu perfformiadau gwych, a fydd, rwy’n siŵr, yn parhau i ysbrydoli athletwyr o bob oed a gallu.”

%d bloggers like this: