03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llongyfarchiadau i Syr Anthony Hopkins ar ennill Oscar yr Actor Gorau

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ychwanegu at y llu llongyfarchion a roddwyd i Syr Anthony Hopkins, sydd wedi cipio gwobr yr Actor Gorau yn seremoni’r Oscars 2021.

Yr actor 83 oed yw’r dyn hynaf erioed i ennill y wobr fawr ei bri, am ei berfformiad clodwiw fel dyn sy’n dioddef â dementia yn The Father, 29 mlynedd ers iddo ennill ei Oscar cyntaf am The Silence of the Lambs.

Wedi’r fuddugoliaeth gyntaf honno yn yr Oscars, derbyniodd Ryddid ei dref enedigol, Port Talbot.

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Karen Jones: “Llongyfarchiadau i Syr Anthony am ei lwyddiant parhaus, ac mae’n debygol y bydd pwnc sensitif y ffilm hon yn helpu pawb ohonom i ddeall mwy am yr anawsterau sy’n dod yn sgil dementia, i’r dioddefwr ac i aelodau’r teulu.”

Roedd Syr Anthony’n absennol o seremoni wobrwyo’r Oscars, ond rhoddodd neges ar Instagram, wedi’i ffilmio yng Nghymru, ble bu’n teithio.

“Yn 83 mlwydd oed, doeddwn i ddim yn disgwyl cael y wobr hon, doeddwn i wir ddim yn disgwyl,” dywedodd. “Rydw i’n hynod ddiolchgar i’r Academi, a diolch yn fawr.”

Enillodd The Father, a fydd yn cael ei rhyddhau yn y DU ar 11 Mehefin, wobr y sgript sgrîn addasedig orau i Syr Christopher Hampton yn ogystal.

Ganwyd Syr Anthony Hopkins ym Margam, yn fab i Muriel Anne a Richard Arthur Hopkins, pobydd, yn 1937. Mae e wedi dweud sawl tro mai’i ysbrydoliaeth iddo fynd i ddilyn gyrfa lwyfan a sgrin oedd cwrdd â’r cawr o actor Richard Burton ym Mhort Talbot pan oedd Hopkins yn 15 oed.

Aeth Hopkins yn ei flaen i gael gyrfa ddisglair, gan dderbyn gwobrau lu gan gynnwys Oscars, Baftas ac Emmys, ac yn 1993 cafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i’r celfyddydau, Mae’r actor, sy’n byw ym Malibu, hefyd wedi derbyn seren ar y Walk of Fame yn Hollywood yn 2003 a Chymrodoriaeth Cyflawniad Oes Bafta yn 2008.

%d bloggers like this: